Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebu yn gyfrifol am adolygu a chynghori’r Cyngor ar drefniadau llywodraethu’r Brifysgol, gan sicrhau bod y Brifysgol yn dilyn arfer da a’i bod hi’n cydymffurfio â gofynion llywodraethu allanol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am argymell penodiad swyddogion lleyg ac aelodau lleyg i’r Cyngor. Yn ystod sesiwn academaiddd 2019-20, cynhaliodd y pwyllgor bum cyfarfod, gan gynnwys cyfarfod arbennig a fu’n canolbwyntio ar roi argymhellion ar waith o’r Adolygiad Effeithiolrwydd Allanol.

Cylch Gorchwyl

Abaty Singleton
 Y Cyfansoddiad 
Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor  (Cadeirydd) 
Dirprwy Ganghellor 
Is-ganghellor 
Dau aelod lleyg o’r Cyngor 
Dau aelod staff a benodir gan y Senedd  
Llywyddion Undeb y Myfyrwyr (neu enwebai) 

 

Dyddiadau ar gyfer cyflwyno papurau i’r SLT@swansea.ac.uk  Dyddiad hwyraf ar gyfer cyflwyno papurau/agenda i’r UDRh  Dyddiad dosbarthu papurauDyddiad y cyfarfod   
Amser y cyfarfod
08/10/2021 13/10/2021 19/10/2021 28/10/2021 9:00am
11/02/2022 16/02/2022 23/02/2022 04/03/2022 9:00am
20/05/2022 25/05/2022 01/06/2022 10/06/2022 9:00am