Mae’r Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg wedi’i gadeirio gan aelod lleyg o’r Cyngor ac mae’n cynnwys aelodau lleyg o’r Cyngor ac aelodau lleyg cyfetholedig. Mae’r holl aelodau yn annibynnol ar dîm rheoli’r Brifysgol er bod uwch-weithredwyr yn mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen. Mae gan y pwyllgor rôl allweddol o ran fframwaith llywodraethu’r Brifysgol gan sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Rheoleiddio Statudol, Rheoleiddio’r Brifysgol a Rheoleiddio Allanol wrth gyflawni ei gweithgareddau ariannol ac anariannol. O ran y materion sy’n rhan o’i gylch gorchwyl, mae’r pwyllgor yn meddu ar yr awdurdod i wneud argymhellion i’r Brifysgol, ei hunedau sefydliadol, a’i haelodau.

Yn ystod sesiwn academaidd 2019-20, cynhaliodd y pwyllgor dair sesiwn gan gynnwys un lle roedd archwilwyr allanol yn bresennol er mwyn trafod canfyddiadau’r archwiliad ac i adolygu datganiadau ariannol a pholisïau’r Brifysgol yn ogystal â’r cynllun archwilio blynyddol. Hefyd cynhaliwyd cyfarfod â’r Pennaeth Archwiliadau Mewnol er mwyn rhoi ystyriaeth i adroddiadau archwiliadau mewnol ac i adolygu systemau rheoli mewnol ac i fynd i’r afael ag argymhellion ar gyfer gwella systemau o’r fath. 

Y Cyfansoddiad 
Aelod Lleyg o’r Cyngor (Cadeirydd) 
 Tri aelod lleyg o’r Cyngor  
Hyd at ddau aelod lleyg cyfetholedig 

 

Dyddiadau ar gyfer cyflwyno papurau i’r SLT@swansea.ac.uk  Dyddiad hwyraf ar gyfer cyflwyno papurau/agenda i’r UDRh   Dyddiad dosbarthu papurau   Dyddiad y cyfarfod    Amser y cyfarfod 
24/09/2021 29/09/2021 14/10/2021 11/10/2021 1:30pm
29/10/2021 03/11/2021 10/11/2021 19/11/2021 8:30am
04/02/2022 09/02/2022 15/02/2022 24/02/2022 8:30am
27/05/2022 01/06/2022 07/06/2022 16/06/2022 8:30am