Abaty Singleton

Mae'r aelodaeth bresennol yn cynnwys: Yr Is-ganghellor (yn y Gadair), y Dirprwy Is-gangellorion, Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion Byrddau'r Pwyllgor Ansawdd Dysgu ac Addysgu, Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu'r Colegau, y Deoniaid Gweithredol (Dirprwy Is-gangellorion), yr holl staff athrawol, 14 aelod etholedig o'r staff nad ydynt yn athrawon o bob un o'r 7 Coleg ac 8 myfyriwr gan gynnwys Swyddogion Amser Llawn Undeb y Myfyrwyr.

Fel arfer, bydd y Senedd yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn, a nodir ei phwerau a'i chyfansoddiad yn Ordinhad y Brifysgol. Ceir rhagor o wybodaeth am y Senedd gan y Swyddfa Llywodraethu yn Governance@abertawe.ac.uk