Gweithdrefn Gwyno ynghylch Diogelu Data

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i drin eich data personol mewn ffordd deg, dryloyw, ac yn unol â'r gyfraith. Os ydych chi'n anhapus gyda sut rydym wedi trin eich data, mae'r broses hon yn egluro sut y gallwch wneud cwyn.

Sut i gwyno

Os oes gennych gŵyn am sut mae eich data personol wedi cael ei drin, anfonwch y Ffurflen Gwyno ynghylch Diogelu Data at dataprotection@swansea.ac.uk

Beth i’w ddisgwyl

Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth yn cydnabod cael cwyn o fewn 30 niwrnod o'i chael. Bydd cydnabod cael y gŵyn yn cynnwys:

  • Cadarnhau ein bod wedi cael y gŵyn
  • Esbonio'r hyn a fydd yn digwydd nesaf
  • Rhoi gwybod i chi pwy sy'n ymdrin â'r gŵyn
  • Rhoi syniad o ran amserlenni

Os ydych dal yn anhapus

Os nad ydych yn fodlon gyda canlyniad eich cwyn, e-bostiwch y Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth (dataprotection@abertawe.ac.uk). Dylai eich e-bost esbonio:

  • Yr hyn nad ydych yn fodlon arno
  • Os oes angen manylion ychwanegol neu eglurhad ynghylch y canlyniad arnoch
  • Os ydych eisiau i ni adolygu ein penderfyniad ynghylch y gŵyn

Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth yn cydnabod y cais ac yn ceisio ei ddatrys heb oedi diangen.

Os yw eich cais yn cynnwys cais i adolygu penderfyniad ynghylch cwyn, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth adolygu'r cwyn yn fewnol cyn rhoi gwybod i chi am benderfyniad yr adolygiad.

Os ydych dal i fod yn anfodlon ar ôl cael penderfyniad yr adolygiad, mae modd i chi gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:

Dyma gyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Gaer / Cheshire

SK9 5AF

Y Deyrnas Unedig