EIN HYMRWYMIAD I STAFF A MYFYRWYR O LEIAFRIFOEDD ETHNIG

Logo - Race Equality Charter

Prifysgol Abertawe yn derbyn ei Gwobr Siarter Cydraddoldeb Hiliol gyntaf.

Mae'r Brifysgol wrth ei bodd i rannu'r newyddion ein bod wedi llwyddo i ennill Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Mae'r cyflawniad hwn yn arddangos ac yn ategu ymrwymiad y Brifysgol i sicrhau cydraddoldeb hiliol ledled y sefydliad. Mae'r wobr hon yn nodi ymrwymiad a pharhad y gwaith rhagorol a wneir i chwalu rhwystrau sy'n bodoli ar gyfer staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol a sicrhau bod cyfleoedd cyfartal ar gael i bawb.

Mae Prifysgol Abertawe yn aelod balch o'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC), sy'n darparu fframwaith i'r sefydliad er mwyn helpu i nodi a myfyrio ar y rhwystrau sefydliadol a diwylliannol a allai effeithio ar staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol. Mae fframwaith y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys y canlynol, ac yn cael effaith gadarnhaol arnynt:

  • Staff proffesiynol a staff cymorth
  • Staff academaidd
  • Dilyniant a chyrhaeddiad myfyrwyr
  • Amrywiaeth y cwricwlwm

Beth yw'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC)?

Wedi'i drefnu gan siarteri cydraddoldeb Advance HE, nod y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yw gwella cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol ym maes addysg uwch. Mae'n rhoi fframwaith y mae sefydliadau'n ei ddefnyddio i hunanfyfyrio ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n effeithio ar staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol gan sicrhau cydnabyddiaeth i'w hymrwymiad a'u cynnydd wrth ddileu'r rhwystrau hyn.

 

Dros y 18 mis diwethaf, mae Tîm Hunanasesu y Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC SAT), a arweinir gan yr Athro Camilla Knight (cyn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn), wedi bod yn gweithio gydag Advance HE i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol ar y campws. Mae’r tîm, sydd wedi'i arwain gan fframwaith y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, wedi adolygu, ymgynghori a dadansoddi tystiolaeth a data'n feirniadol er mwyn datgelu gwahaniaethau, heriau a rhwystrau sy'n effeithio ar ein staff a’n myfyrwyr ethnig leiafrifol. Mae'r broses hon wedi bod yn heriol - roedd yn cynnwys ymdrin â materion cymhleth a sensitif a oedd yn gofyn am ymagwedd ofalus ac ystyriol, ynghyd ag arweinyddiaeth gref a chefnogaeth ar lefel uwch er mwyn ysgogi newid ystyrlon.

Canlyniad y broses hon yw bod cynllun gweithredu sefydliadol eang a manwl, a fydd yn weithredol am 5 mlynedd, wedi cael ei greu er mwyn mynd i'r afael â 7 blaenoriaeth allweddol i wella profiadau staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Y meysydd blaenoriaeth allweddol yw:

  1. Datblygu diwylliant cynhwysol ar gyfer staff a myfyrwyr lle mae'r holl unigolion, ond yn enwedig y rhai ethnig leiafrifol, yn nodi ymdeimlad o berthyn
  2. Archwilio a mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng nifer y cydweithwyr ethnig leiafrifol yn y gwasanaethau proffesiynol ac ymchwilwyr sydd â chytundebau am gyfnod penodol, o’i gymharu â chydweithwyr gwyn.
  3. Adolygu a mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng y tebygrwydd y bydd cydweithwyr ethnig leiafrifol yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rolau academaidd, gwasanaethau proffesiynol ac ymchwilydd ac yn cael eu penodi i’r rolau hynny, o’i gymharu â chydweithwyr gwyn.
  4. Deall a mynd i'r afael â'r gwahaniaeth yn y gyfradd lwyddiant am ddyrchafiad rhwng cydweithwyr academaidd ethnig leiafrifol a chydweithwyr academaidd gwyn ar draws yr holl raddau
  5. Cynyddu cynrychiolaeth cydweithwyr ethnig leiafrifol ar bwyllgorau sy'n gwneud penderfyniadau ar draws y Brifysgol
  6. Lleihau'r gwahaniaeth rhwng dyfarnu graddau israddedig i fyfyrwyr gwyn o'r Deyrnas Unedig a myfyrwyr ethnig leiafrifol o'r Deyrnas Unedig a myfyrwyr nad ydynt o'r DU
  7. Sefydlu prosesau clir, hygyrch a dibynadwy ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau o hiliaeth a microymosod ar y campws ac oddi arno, a delio â’r digwyddiadau hynny.

Wrth fyfyrio ar ein cyflawniad diweddar, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle:

”Mae derbyn Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn garreg filltir bwysig i'n Prifysgol.Mae'n cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yn bwysicach byth, yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ysgogi newid ystyrlon a gwneud cynnydd parhaus wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol.

Mae'r cynllun gweithredu rydym wedi ei ddatblygu yn uchelgeisiol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi cael ei lunio gan brofiadau personol ein staff a'n myfyrwyr ethnig leiafrifol.Mae'n gosod llwybr clir ac angenrheidiol ar gyfer creu amgylchedd mwy teg, cynhwysol a chefnogol ar gyfer holl aelodau cymuned ein Prifysgol.Hoffwn i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hollbwysig hwn.”

Yn y cyfamser, myfyriodd y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn:

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sylw sylweddol wedi ei roi i fynd i'r afael â materion anghydraddoldeb hiliol ar draws y sefydliad.Roedd myfyrio ar y gwaith hwn, yn ogystal â'r gwaith y mae angen ei wneud o hyd, yn gam allweddol wrth lunio ein cais am y Siarter Cydraddoldeb Hiliol.Rydw i'n hynod falch bod y cais a luniwyd gennym wedi cael ei ystyried yn gais cryf gan banel Advance HE.Hoffwn i ddiolch yn fawr i'r holl staff a myfyrwyr a oedd yn rhan o'r cais a'r gwaith ategol.Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cydnabod bod rhagor o waith ar ddod wrth i ni ymdrechu i roi cynllun gweithredu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol ar waith a chymryd camau pellach i sicrhau y caiff Prifysgol Abertawe ei hadnabod fel sefydliad gwrth-hiliol sy'n croesawu pawb."

Mae Gwobr Efydd y Brifysgol yn ddilys am bum mlynedd. 

Gwrth-Hiliaeth ym Mhrifysgol Abertawe

Ein Hymrwymiad

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd dysgu a gweithio lle nid yw hiliaeth yn cael ei ganiatáu - p'un a yw'n amlwg neu'n gynnil, yn targedu unigolyn neu sefydliad. Rydym yn cydnabod bod gwrth-hiliaeth yn ymarfer gweithredol sy'n gofyn am fyfyrdod parhaus, newid strwythurol ac atebolrwydd. Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i beidio â gwahaniaethu er mwyn nodi, herio a datgysylltu systemau, polisïau ac arferion sy'n creu canlyniadau anghyfartal i bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol.

Ein nod yw datblygu diwylliant yn y Brifysgol sy'n gynhwysol, yn deg ac sy'n grymuso staff, myfyrwyr a chymunedau - a diwylliant sy'n mynd i'r afael â phob math o hiliaeth yn rhagweithiol. Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i arwain gan egwyddorion gwrth-hiliaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac mae'n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. (Cymru Wrth-hiliol | LLYW.CYMRU)

Wedi'i arwyddo gan Arweinydd Sefydliadol Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Yr Athro Charlotte Rees 

Beth mae Gwrth-Hiliaeth yn ei Olygu i Ni

Mae gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Abertawe'n golygu:

  • Gwreiddio gwrth-hiliaeth i fywyd sefydliadol: integreiddio meddwl ac ymarfer gwrth-hiliol ar draws ein llywodraethiant, cynllunio'r cwricwlwm, ymchwil, cymorth i fyfyrwyr, polisïau Gwasanaethau Pobl ac ymgysylltu â'r gymuned.
  • Symud systemau, nid agweddau'n unig: nid yw hiliaeth yn ymwneud ag ymddygiadau unigol yn unig, mae wedi'i gwreiddio mewn strwythurau, polisïau a phrosesau hanesyddol. Mae gwrth-hiliaeth yn gofyn am drawsnewidiad systemig, yn hytrach na chanolbwyntio ar fwriadau unigol yn unig.
  • Gwerthfawrogi profiad personol a thystiolaeth: rydym yn ymrwymo i wrando a chanolbwyntio ar leisiau ein cydweithwyr, ein myfyrwyr a'n partneriaid ethnig leiafrifol, ac i gasglu data cadarn er mwyn deall a mynd i'r afael â gwahaniaethau mewn canlyniadau.
  • Cynghreiriaeth ragweithiol ac atebolrwydd: meithrin cymhwysedd diwylliannol ar draws ein cymuned, gan annog unigolion i weithredu fel cymheiriaid, a datblygu mecanweithiau clir ar gyfer mesur cynnydd.

Cydymffurfio â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn darparu fframwaith ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn gweithio tuag at ddod yn genedl wrth-hiliol. Ei weledigaeth yw Cymru lle caiff hiliaeth strwythurol ei herio'n rhagweithiol, lle mae gan gymunedau ethnig leiafrifol fynediad teg at gyfleoedd a gwasanaethau, a lle mae profiad personol yn helpu i lywio polisi ac ymarfer.

Mae egwyddorion allweddol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy'n llywio gwaith gwrth-hiliaeth Prifysgol Abertawe'n cynnwys:

  • Ffocws systemig yn hytrach na thybiaethau unigol: mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn pwysleisio bod hiliaeth yn aml wedi cael ei gwreiddio mewn polisïau, arferion sefydliadol a chanlyniadau anghyfartal - nid yn unig mewn rhagfarn unigol - a rhaid mynd i'r afael â hiliaeth ar y lefel honno.
  • Croestoriadedd: cydnabod bod hil yn croestorri ag agweddau eraill ar hunaniaeth (megis rhywedd, anabledd a chefndir cymdeithasol-economaidd) a bod yn rhaid i newid teg adlewyrchu'r cymhlethdod hwn.
  • Cynnydd wedi'i ysgogi gan ddata: gwella dulliau casglu a defnyddio data ar ethnigrwydd a hil er mwyn deall gwahaniaethau ac arwain camau gweithredu effeithiol.

Wrth i Brifysgol Abertawe weithredu yn sector addysg uwch y DU ac ar sail ein strwythurau llywodraethu ein hun, rydym yn ymrwymedig i gefnogi ac adlewyrchu ysbryd ac amcanion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol drwy wreiddio strategaethau gwrth-hiliol yn ein polisïau a'n harferion a chyfrannu at newid diwylliannol cadarnhaol yng Nghymru.

Manylion Cyswllt ac Adnoddau Ategol

Os oes gennych brofiadau yr hoffech chi eu rhannu, pryderon yr hoffech chi eu trafod, neu syniadau ar gyfer cryfhau ein gwaith gwrth-hiliaeth, rydym yn eich annog i gysylltu â'r Gwasanaethau Pobl yn: PeopleServices@abertawe.ac.uk

Gallwch ddarllen rhagor am Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru (Cymru Wrth-hiliol | LLYW.CYMRU).

Gellir gweld rhestr lawn o aelodau Tîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol 2023-2025 yma; REC SAT Membership 2023-2025