Llun o gwyddau ar y glaswellt ger yr arfordir gyda fferi mawr yn y doc yn y cefndir.

Mae elyrch yn gorffwys ar ddôl arfordirol agored ochr yn ochr â therfynfa fferïau brysur, gan gyflwyno ecosystemau byw a’r isadeiledd adeiledig yn yr un llun. Mae'r llun yn mynd law yn llaw â'r ddadl bod ecosystemau morol yn isadeiledd hanfodol sy'n cefnogi bioamrywiaeth, diogelwch bwyd a gwydnwch cymdeithasol mewn oes o sawl argyfwng cefnforol.
(Llun: Richard K. F. Unsworth)

Mae ymchwilwyr yn galw am fuddsoddiad parhaol mewn moroedd iach er mwyn cefnogi diogelwch bwyd, diogelu arfordiroedd a chryfhau gwydnwch economaidd.

Maent yn dweud y dylai llywodraethau roi'r un ymrwymiad hirdymor i ddiogelu ac adfer ecosystemau morol ag y maent yn ei roi i isadeiledd hanfodol arall.

Mewn papur newydd yn y cyfnodolyn Nexus, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Project Seagrass a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg King Abdullah (KAUST) yn rhybuddio bod difrod i fywyd morol yn bygwth y cyflenwadau bwyd, yr amddiffyniad arfordirol a'r bywoliaethau y mae moroedd iach yn eu cynnal.

Maent yn galw am  adfer y cefnfor i ddod yn rhan o gynllunio hirdymor y llywodraeth, gyda chymorth buddsoddiad sy'n parhau y tu hwnt i etholiadau a rhaglenni cyllido unigol.

Meddai'r prif awdur Dr Richard Unsworth, Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe a Phrif Swyddog Gwyddonol  Project Seagrass: “Rydym yn cynllunio ffyrdd a rhwydweithiau ynni am ddegawdau. Mae angen yr un math o feddwl hirdymor arnom ar gyfer y systemau byw sy'n cynnal ein bwyd, ein glannau a'n hinsawdd.

“Pan fydd ecosystemau morol yn dirywio, mae'r canlyniadau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i fywyd gwyllt. Mae eu diogelu yn fuddsoddiad yn niogelwch a lles cymunedau.”

Gan dynnu ar ymchwil bresennol, mae'r papur yn archwilio sut mae dirywiad amgylcheddol, ansefydlogrwydd gwleidyddol a phwysau economaidd yn rhyngweithio. Mae moroedd sy'n cynhesu a phwysau eraill yn niweidio ecosystemau morol, tra bod cydweithredu rhyngwladol sy'n gwanhau ac ansicrwydd ynghylch cyllid yn ei gwneud hi'n anoddach cyflawni adferiad parhaus.

Ar gyfer gwlad ynys fel y DU, mae'r ddadl yn cysylltu iechyd cynefinoedd morol â phenderfyniadau ynglŷn â physgodfeydd, amddiffyn arfordirol a gwariant cyhoeddus. Mae dolydd morwellt, morfeydd heli ac ecosystemau arfordirol eraill yn rhoi buddion y mae'r awduron yn dweud bod yn rhaid eu cydnabod yn y ffordd y mae llywodraethau'n cynllunio ac yn buddsoddi.

Mae'r ymchwilwyr hefyd yn galw am ffocws cryfach ar y cwestiwn a yw cadwraeth yn arwain at adferiad. Mae targedau ar gyfer yr ardal a ddiogelir neu a adferir yn parhau i fod yn ddefnyddiol, ond rhaid iddynt gael eu hategu gan dystiolaeth fod ecosystemau yn dod yn iachach.

Meddai Dr Unsworth: "Ni allwn farnu llwyddiant yn syml drwy dynnu ffin ar fap neu drwy gyfrif faint o hectarau rydym wedi eu plannu. Mae angen i ni wybod a yw bywyd morol yn gwella, a yw cynefinoedd yn cynnal pysgodfeydd, ac a yw cymunedau arfordirol yn gweld y manteision.

“Mae hynny’n golygu buddsoddi mewn monitro a bod yn agored ynghylch yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd angen ei newid.”

Mae'r awduron eisiau buddsoddiad cyhoeddus a phreifat parhaus, adferiad sy'n canolbwyntio ar fannau lle mae adferiad yn realistig yn wyddonol, a chymunedau arfordirol yn rhan o lunio penderfyniadau o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r papur yn tynnu sylw at seagrass ocean rescue yng ngorllewin Cymru fel enghraifft o adfer a ddatblygwyd gyda chyfranogiad y gymuned. Mae'r ymchwilwyr yn dadlau bod mwy o siawns i gadwraeth barhau pan fydd pobl leol yn helpu i'w llunio ac yn rhannu ei manteision.

Maent yn pwysleisio bod yn rhaid i gyllid gefnogi'r amser sydd ei angen ar ecosystemau i adfer, gan gynnwys rheoli a monitro parhaus ar ôl yr ymyrraeth gychwynnol.

Meddai Dr Unsworth: “Mae adferiad yn cymryd amser. Ni ddylai newid llywodraeth na diwedd cyllido rhaglen olygu rhoi'r gorau i flynyddoedd o waith.

"Rydym yn dibynnu ar foroedd iach bob dydd. Mae angen i’n hymrwymiad i’w dyfodol adlewyrchu hynny.”

Gallwch ddarllen y papur: Marine ecosystems are essential infrastructure in an era of ocean polycrisis, gan Richard K.F. Unsworth, Leanne Cullen-Unsworth, Benjamin L.H. Jones a Carlos M. Duarte.

 

Rhannu'r stori