Dr Richard Unsworth

Dr Richard Unsworth

Athro Cyswllt, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 9018

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - 144
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae arbenigedd Richard ym maes prosesau strwythuro ecolegol systemau morol a goblygiadau’r systemau hyn i gymdeithas. Mae hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar y rhyngberthnasoedd rhwng rhywogaethau sylfaen, cynefinoedd, a ffawna atgynhyrchiol cysylltiedig (pysgod yn bennaf). Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng ngoblygiadau newidiadau amgylcheddol aml-raddfa ar weithrediad dolydd morwellt a goblygiadau hyn i ddiogelwch bwyd byd-eang a gwasanaethau ecosystem eraill.

Mae gan Richard ddeuddeng mlynedd a mwy o brofiad ym maes ymchwil systemau morol ac mae’n cynnal gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol cydweithredol yn Ewrop, Awstralia, Indonesia, Columbia a’r Ynysoedd Turks a Caicos.

Mae Richard yn gweithio yn nhîm SEACAMS yn Abertawe, ac yn arwain y modiwl lefel 3 mewn 'Ecoleg a chadwraeth forol drofannol' ac yn addysgu ar y modiwl MSc mewn 'Cadwraeth adnoddau dyfrol'.

Ar ôl cwblhau ei Ddoethuriaeth yn 2007, fe wnaeth Richard waith ymchwil ac ymgynghori i Sinclair Knight Merz, Brisbane a’r Northern Fisheries Centre, yn Queensland, Awstralia. Mae wedi gweithio fel uwch ddarlithydd ecoleg ym Mhrifysgol Morgannwg hefyd.

Mae’n olygydd academaidd yn PLoS One ac yn is-lywydd y World Seagrass Association. Mae Richard yn sefydlydd-gyfarwyddwr y Prosiect Morwellt hefyd ac mae’n parhau i weithio fel uwch wyddonydd yn SeagrassWatchHQ. Mae rolau eraill yn cynnwys aelodaeth byrddau golygyddol Marine Pollution Bulletin a Marine Environmental Research.

Mae ei brosiectau ymchwil cyfredol yn cynnwys effaith amrywioldeb yr hinsawdd ar ecosystemau morwellt, dadansoddi systemau economaidd-gymdeithasol, asideiddio’r cefnforoedd a morwellt, a chydnerthedd morwellt a’r gwasanaeth ecosystem a ddarparant.

Ar hyn o bryd, darperir cyllid drwy SEACAMS, Darwin, y Waterloo Foundation a’r Ocean Foundation.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg forol
  • Bioleg morwellt
  • Ecoleg pysgodfeydd
  • Bioleg pysgod
  • Systemau cymdeithasol-ecolegol
  • cydnerthedd
  • bioleg forol
  • Diogelwch bwyd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Grŵp Ymchwil Ecosystem Morwellt

Mae’r Grŵp Ymchwil Ecosystem Morwellt (SERG) yn brosiect ymchwil morol cydweithredol rhyngddisgyblaethol rhwng gwyddonwyr yr Ysgol Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE) ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cynnal gwaith ymchwil sylfaenol a chymhwysol i strwythur, swyddogaeth a chydnerthedd dolydd morwellt o fewn system ecolegol cymdeithasol cysylltiedig â’r cymorth y mae’r dolydd hyn yn eu darparu o ran diogelwch bwyd.