Dysgwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel yn y digwyddiad ymgynghori ESOL. 

Dysgwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel yn y digwyddiad ymgynghori ESOL. 

Mae academydd o Brifysgol Abertawe yn rhan o brosiect newydd sy’n archwilio sut gall addysg iaith i ffoaduriaid a mudwyr fod yn fwy amlieithog a chynhwysol ar draws gwledydd datganoledig y DU.

Mae Dr Gwennan Higham, Uwch-ddarlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe, yn rhan o’r prosiect Ymagwedd Amlieithog, Ddad-drefedigol at Addysg Iaith i Ffoaduriaid a Mudwyr sy’n Oedolion (MDLE), a arweinir gan y Brifysgol Agored.

Mae’r prosiect, sydd wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn dod ag 13 o sefydliadau partner ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynghyd i ddatblygu ymagwedd at iaith addysg sy’n ymgorffori ieithoedd lleiafrifol brodorol, ieithoedd cartref ffoaduriaid a mudwyr, a Saesneg.

Arweinir y prosiect gan Dr Sarah Cox, Cymrawd Ymchwil yn y Brifysgol Agored (OU) yn yr Alban, ochr yn ochr â chyd-arweinydd yn y Brifysgol Agored, Dr Sylvia Warnecke, yr Athro Mike Chick (Prifysgol De Cymru) a Dr Mel Engman (Prifysgol y Frenhines, Belfast). Mae Dr Memory Malibha-Stratton, sy’n Gydymaith Ymchwil ac Arloesi yn y Brifysgol Agored, yn rhan o’r tîm hefyd.

Mae’r ymchwil yn tynnu ar brofiad y tîm o addysg iaith i ffoaduriaid a mudwyr ac addysg ieithoedd brodorol ar draws y tair gwlad. Hefyd, bydd yn adeiladu ar waith arloesol a wnaed yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar i ddatblygu darpariaeth Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL) ac yn archwilio sut gall dysgu iaith leiafrifol gefnogi integreiddio ffoaduriaid a mudwyr.

Hefyd, mae’r prosiect yn adeiladu ar ddigwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd yn Belfast, yng Nghaerdydd ac yng Nghaeredin yn 2024 gyda rhanddeiliaid gan gynnwys sefydliadau trydydd sector, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach a phobl o gefndiroedd ffoaduriaid a mudwyr.

Cynhelir yr ymchwil mewn tri cham. Bydd ymchwilwyr yn dechrau drwy gyfweld â rhanddeiliaid allweddol ym mhob gwlad cyn iddynt ddefnyddio eu canfyddiadau i gyd-ddylunio gweithdai ac adnoddau addysgu ar y cyd â sefydliadau partner.

Bydd y gweithgareddau hyn yn llywio cwrs datblygiad proffesiynol ar-lein mynediad agored i athrawon iaith, a fydd yn parhau i fod ar gael drwy OpenLearn Create ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Bydd y cam terfynol yn dod â rhanddeiliaid o’r tair gwlad ynghyd drwy ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth i rannu canfyddiadau a meithrin perthnasoedd. Fel rhan o’r prosiect, bydd rhanddeiliaid o’r Alban a Gogledd Iwerddon yn ymweld â Chymru i weld enghreifftiau o ddarpariaeth amlieithog ac iaith leiafrifol ar waith ac i gyfnewid dysgu â sefydliadau Cymreig.

Meddai Dr Sarah Cox, Arweinydd y Prosiect, “Drwy gynyddu dysgu rhwng  gwledydd datganoledig y DU, rydyn ni’n gobeithio newid ymagweddau ac arferion ym myd addysg iaith, cynyddu sgiliau, gwybodaeth a hyder athrawon ynghylch ymagweddau amlieithog, dad-drefedigaethol a chryfhau rhwydweithiau rhwng Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), athrawon, arbenigwyr ieithoedd brodorol a chymunedau ffoaduriaid a mudwyr. Mae’r gwaith sy’n cael ei gynnal yng Nghymru o ran WSOL ac integreiddio wedi bod yn arbennig o ddylanwadol wrth lywio trafodaethau’r prosiect.”

Bydd y prosiect yn gweithio gyda sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn ESOL ac ieithoedd brodorol ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda’r nod o ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer a gwella profiadau a lles ffoaduriaid a mudwyr.

Meddai Dr Gwennan Higham, "Mae datblygiadau diweddar ym maes Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill wedi arddangos potensial dysgu ieithoedd lleiafrifol i gefnogi integreiddio, cyfranogi a pherthyn. Mae’r prosiect hwn yn creu cyfle cyffrous i rannu dysgu o Gymru wrth gydweithredu â phartneriaid ar draws yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddatblygu ymagweddau mwy amlieithog a chynhwysol at addysg iaith.”

Rhannu'r stori