Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a'r Athro Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a'r Athro Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yn llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth i i gefnogi twf economaidd ac yn cyflymu arloesi a buddsoddi yng Nghymru a'r DU. 

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cydweithio i ddatblygu dull aml-sefydliad cyntaf y DU ar gyfer galluoedd Ffowndri Peilot Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cenedlaethol sy'n gysylltiedig â byd diwydiant. 

Yn dilyn llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth, bydd y prifysgolion yn cydweithio i gryfhau safle Cymru yn un o sectorau technoleg pwysicaf y byd yn strategol, gan ehangu ar lwyddiant Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru. 

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn hanfodol i ystod eang o dechnolegau, gan gynnwys electroneg pŵer, systemau cyfathrebu uwch, caledwedd deallusrwydd artiffisial, ac mae ganddyn nhw amrywiaeth o gymwysiadau ym maes amddiffyn, diogelwch, ynni glân, ac archwilio’r gofod. Mae'r galw am y technolegau hyn yn cynyddu'n fyd-eang, gan greu cyfleoedd sylweddol ar gyfer twf economaidd a buddsoddiadau. 

Bydd y bartneriaeth yn archwilio sut y gallai galluoedd ffowndri peilot cydlynol ledled de Cymru helpu ymchwilwyr a busnesau i ddatblygu, profi ac ehangu technolegau lled-ddargludyddion newydd yn gyflymach, gan helpu i bontio'r bwlch rhwng ymchwil a gweithgynhyrchu masnachol. 

Drwy ddod â'u cryfderau priodol ynghyd ym maes ymchwil, arloesi ac ymgysylltu diwydiannol, mae prifysgol Caerdydd ac Abertawe yn anelu at greu llwybr cryfach o ddarganfyddiadau gwyddonol i’r effaith fasnachol. 

Bydd y cydweithio’n cefnogi twf parhaus Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru, gan helpu busnesau i gyrchu arbenigedd, seilwaith a thalent wrth ddenu buddsoddiad newydd i Gymru a'r DU yn ehangach. 

Mae ffowndrïau peilot yn darparu amgylcheddau mynediad agored lle gellir dylunio, cynhyrchu a phrofi technolegau sy'n dod i'r amlwg cyn mynd i gynhyrchu ar raddfa lawn. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth leihau'r amser a'r gost sydd eu hangen i ddod ag arloesiadau i'r farchnad.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Howard Rupprecht, Rheolwr Gyfarwyddwr CSconnected Ltd, y sefydliad nid er elw sy'n arwain clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yn Ne Cymru: “Mae eisoes gan Dde Cymru y cryfder ymchwil, y sylfaen weithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi sy’n tyfu. Yr hyn sydd ei angen ar gwmnïau nawr yw cyfleusterau i greu prototeipiau a phrofi eu technoleg ar raddfa beilot, a hynny’n unol â seilwaith y ffatri lle bydd y cynhyrchion yn cael eu gwneud. Mae gan Gaerdydd ac Abertawe ill dau allu sy’n gweddu i’w gilydd.  

“Mae buddsoddi mewn llinell beilot integredig yn helpu'r clwstwr i aros yn berthnasol yn fyd-eang, ac mae'n gam hanfodol tuag at gymryd rhan yn rhaglen Deddf Sglodion II yr UE wrth iddi ddod ar-lein. At ei gilydd mae hyn yn cryfhau'r clwstwr, gyda mwy o gwmnïau'n gallu datblygu a graddio eu technoleg, yn Ne Cymru a chyda phartneriaid ymhellach i ffwrdd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r ddwy brifysgol wrth iddynt ddatblygu eu map ffordd a'u galluoedd.” 

Bydd y prifysgolion hefyd yn archwilio’r cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau a'r gweithlu sydd eu hangen i gefnogi twf yn y dyfodol ar draws y sector lled-ddargludyddion, gan helpu i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn gystadleuol yn rhyngwladol yn y diwydiant strategol bwysig hwn. 

Dyma a ddywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae gan brifysgolion rôl hanfodol i’w chwarae wrth ddod â phobl, syniadau a sefydliadau ynghyd i fynd i’r afael â heriau cyffredin a chreu cyfleoedd newydd. Mae'r bartneriaeth hon yn cyfuno cryfderau prifysgolion Caerdydd ac Abertawe i gefnogi ardal lle mae gan Gymru fantais ryngwladol sylweddol eisoes. 

“Drwy gydweithio’n agos â byd diwydiant a’r llywodraeth, gallwn ni helpu i droi ymchwil o’r radd flaenaf yn arloesi, buddsoddiadau a swyddi o safon, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn wlad lle mae technolegau newydd yn cael eu datblygu, eu profi a’u dwyn i’r farchnad.” 

Dyma a ddywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn adlewyrchu rôl unigryw ein dwy brifysgol o fewn ecosystem lled-ddargludyddion cyfansawdd ffyniannus Cymru. Dyma gyfle i gydweithio i greu'r cysylltiadau rhwng pobl, arbenigedd a gwybodaeth a fydd yn cryfhau cyfraniad Cymru i'r sector hollbwysig hwn. 

“Gan ehangu ar ein traddodiad hir o gydweithio, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid byd diwydiant a llywodraeth i droi cryfderau ymchwil cyflenwol ein sefydliadau yn gymwysiadau ymarferol sy’n creu manteision economaidd parhaol, cyfleoedd newydd i fusnesau a swyddi medrus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yng Nghymru a thu hwnt.” 

Bydd y prifysgolion yn creu grŵp cyflawni ar y cyd i ymgysylltu â byd diwydiant, llywodraeth a rhanddeiliaid eraill wrth iddyn nhw ddatblygu map trywydd a chynnig buddsoddi ar y cyd ar gyfer y fenter. 

Meddai’r Athro Syr Leszek Borysiewicz, Cadeirydd UKRI: "Rwy’n falch iawn o weld cydweithio rhwng prifysgolion lleol ar waith. Mae’n hollbwysig ein bod yn manteisio’n llawn ar yr asedau arloesi cenedlaethol sydd eisoes gennym er mwyn ysgogi twf mewn cynhyrchiant a chynnal ein cystadleurwydd rhyngwladol. Dyma’n union beth mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn bwriadu gwneud fel galluogwyr canolog i sectorau lled-ddargludyddion de Cymru, ac yn wir y DU."

Rhannu'r stori