Nod y cynllun yw ymdrin â chyfyngiadau amser, gwella cyfleoedd cydweithredu, cyllid, mentora a datblygiad proffesiynol er mwyn cefnogi unigolion talentog yn well i ddatblygu gyrfaoedd academaidd clinigol llwyddiannus a boddhaus. Credyd: New Africa | Shutterstock.
Mae Prifysgol Abertawe'n bartner mewn menter o bwys sydd â'r nod o gryfhau gweithlu ymchwil glinigol y DU drwy helpu clinigwyr i ddatblygu gyrfaoedd ymchwil ochr yn ochr â'u gwaith clinigol.
Mae'r Great Western Clinical Research Alliance (GWCRA), Cyfrif Rhanbarthol newydd i Ymarferwyr Clinigol, wedi cael £1.4 miliwn o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i gefnogi clinigwyr ar adegau allweddol yn eu gyrfaoedd ymchwil.
Mae'r fenter yn dod â phrifysgolion y GW4 Alliance ynghyd, sef Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg, ynghyd â phartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, yn ogystal â chwech o ymddiriedolaethau a byrddau iechyd y GIG ledled Cymru a Lloegr.
Ym Mhrifysgol Abertawe, arweinir y fenter ar y cyd gan yr Athro Gwyneth Davies a'r Athro Andrew Morris o’r Ysgol Feddygol.
Meddai'r Athro Davies, Athro Meddygaeth Resbiradol, sy'n Feddyg Resbiradaeth: "Dyma gyfle pwysig iawn i Gymru ac i'r gymuned ymchwil glinigol. Drwy helpu clinigwyr i ddatblygu a chynnal gyrfaoedd ymchwil, ochr yn ochr â'u gwaith clinigol, bydd y fenter yn creu mwy o gyfleoedd i ymchwilwyr talentog yng Nghymru gyfrannu at ddarganfod gwyddonol, datblygu triniaethau newydd ac, yn y pen draw, i wella canlyniadau iechyd a gofal iechyd i gleifion."
Ychwanegodd yr Athro Morris, Athro Fferylliaeth: "Drwy gyfranogiad Abertawe yn y bartneriaeth ranbarthol hon, gallwn helpu i feithrin amgylchedd ymchwil cryfach a mwy cysylltiedig, gan gefnogi'r broses o droi darganfyddiadau gwyddonol yn ganlyniadau arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a gofal iechyd yng Nghymru a'r tu hwnt.”
Nod GWCRA yw helpu meddygon, deintyddion, milfeddygon, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n gweithio mewn gwyddoniaeth ddarganfod ac sydd yn aml yn wynebu heriau sylweddol o ran cydbwyso cyfrifoldebau clinigol â datblygu eu gyrfaoedd ymchwil ar ôl ennill PhD neu MD.
Nod y cynllun yw ymdrin â chyfyngiadau amser, gwella cyfleoedd cydweithredu, cyllid, mentora a datblygiad proffesiynol er mwyn cefnogi unigolion talentog yn well i ddatblygu gyrfaoedd academaidd clinigol llwyddiannus a boddhaus.
Mae cadw ymchwilwyr clinigol yn hanfodol i ysgogi darganfod gwyddonol, dyfnhau ein dealltwriaeth o glefydau, datblygu diagnosteg a thriniaethau newydd, gwella gofal cleifion, a helpu i wneud y GIG yn 'addas i'r dyfodol'.
Meddai'r Athro Richard Coward o Brifysgol Bryste sy'n arwain y consortiwm newydd: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau'r buddsoddiad pwysig hwn. Byddwn ni'n creu ecosystem darganfod gwyddonol fywiog yn y rhanbarth i gefnogi academi ôl-ddoethurol y Great Western Clinical Research Alliance. Bydd yr academi yn meithrin amgylchedd cydweithredol sy'n cynnwys ymchwilwyr clinigol, gwyddonwyr darganfod ac arbenigwyr sefydledig ym maes arloesi iechyd.
"Bydd y buddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Meddygol hefyd yn ein galluogi i ariannu amrywiaeth o ddyfarniadau clinigol hyblyg a phwrpasol i gefnogi ymchwilwyr clinigol ar adegau allweddol yn eu gyrfaoedd fel y gallan nhw ffynnu a datblygu fel aelodau o weithlu academaidd clinigol ein rhanbarth."
Mae'r Cyngor Ymchwil Meddygol wedi buddsoddi £9.7 miliwn yn y fenter beilot hon dros bedair blynedd i sefydlu 10 Cyfrif Rhanbarthol i Ymchwilwyr Clinigol ar draws mwy na 50 o sefydliadau ymchwil a mwy na 60 o sefydliadau'r GIG, â'r nod o gefnogi tua 200 o glinigwyr ledled y DU.