Yr Athro Paul Meredith

Yr Athro Paul Meredith, enillydd cyntaf Gwobr Arglwyddes Rhondda am Gyflawniad Rhagorol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae Athro o Brifysgol Abertawe, y mae ei ymchwil arloesol yn helpu i lywio dyfodol technoleg lled-ddargludyddion a gweithgynhyrchu cynaliadwy, wedi ennill gwobr fawreddog sy'n cydnabod ei gyflawniadau rhagorol.

Mae’r Athro Paul Meredith, Athro Ffiseg Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei enwi'n enillydd cyntaf Gwobr Arglwyddes Rhondda am Gyflawniad Rhagorol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cafodd yr Athro Meredith ei eni a'i fagu yng Nghymru a derbyniodd ei addysg yma hefyd. Mae wedi chwarae rôl sylweddol wrth ddatblygu galluoedd ymchwil y wlad a'r diwydiant lled-ddargludyddion. Mae ei ymchwil wedi gwella dealltwriaeth o'r rôl sylfaenol sydd gan led-ddargludyddion mewn bywyd modern, yn ogystal â sut gallant gael eu gweithgynhyrchu'r fwy cynaliadwy.

Mae'r Athro Meredith yn eiriolwr angerddol dros ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ddawn ymchwil, ac mae'n arwain Canolfan Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol yn y Diwydiant Lled-ddargludyddion ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ei ddylanwad hefyd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru. Yn ystod ei gyfnod yn Awstralia, cyfrannodd at ddatblygiad polisi nodau ynni adnewyddadwy Queensland sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, a sefydlodd dri chwmni newydd. Mae ei waith rhyngwladol ehangach wedi cynhyrchu nifer o batentau a chyhoeddiadau gwyddonol, ochr yn ochr â hanes blaenorol cryf o sicrhau cyllid ymchwil ar draws y DU, Ewrop, Asia ac America.

Yn 2017, dychwelodd yr Athro Meredith i'w alma mater, Prifysgol Abertawe, i sefydlu rhaglen ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar ffiseg deunyddiau uwch cynaliadwy. Gwnaeth y gwaith hwn baratoi'r ffordd ar gyfer creu Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol ar Gampws y Bae yn y Brifysgol, ac mae'n gyfarwyddwr ar y Ganolfan.

Mae ei wobr yn cydnabod cyfraniad eithriadol i'w faes, ond mae hefyd yn cydnabod gyrfa sy’n ymrwymedig i gryfhau tirwedd ymchwil ac arloesi Cymru gan feithrin ei henw rhyngwladol ym maes deunyddiau uwch a thechnolegau lled-ddargludyddion.

Dywedodd yr Athro Meredith: "Mae'n fraint cael ennill Medal Arglwyddes Rhondda gan ein Cymdeithas Ddysgedig Genedlaethol. Cefais fy ngeni a’m magu yn ne Cymru a chefais fy addysg yma hefyd, felly mae'r Fedal hon yn arbennig iawn i mi oherwydd ei bod yn dathlu arloeswr go iawn yn nhreftadaeth gymdeithasol, diwydiannol a diwylliannol ein rhanbarth - Arglwyddes Rhondda.

"Mae fy ngyrfa wedi rhoi'r cyfle i mi weld y byd, ond rwyf wrth fy modd i fod yn ôl lle y dechreuais yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe, fy adran gartref. Rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda rhai o'r meddyliau mwyaf clyfar ar y blaned - mae ymchwil wyddonol yn ymdrech gydweithredol, ac felly mae'n bleser gennyf dderbyn y Fedal ar ran yr holl gydweithwyr a'r myfyrwyr rydw i wedi ac yn parhau i weithio gyda nhw yma yn ne Cymru a ledled y byd."

Dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cyflwyno ei medalau sydd wedi cael eu hail-lansio ac sydd wedi'u henwi ar ôl rhai o arloeswyr mwyaf pwysig Cymru a lwyddodd yn aml wrth wynebu amryw o heriau. Mae Gwobr Arglwyddes Rhondda, sy'n cydnabod cyflawniad rhagorol mewn ymchwil ac arloesedd, wedi'i henwi ar ôl Margaret Mackworth (1883-1958), swffragét flaenllaw o Gymru a ddaeth yn ddiwydiannwr arloesol gan gadeirio 33 o gwmnïau a chwarae rôl arweiniol mewn busnesau Prydeinig.

Rhannu'r stori