Richard Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon; yr Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH; yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe; Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cydbwyllgor Corfforaethol Gorllewin Cymru.

Richard Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon;  yr Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH; yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe; Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cydbwyllgor Corfforaethol Gorllewin Cymru.

Mae gwaith adeiladu'r Sefydliad Chwaraeon ac Iechyd (NISH), canolfan arloesol ar gyfer hyrwyddo arloesi ym meysydd iechyd, chwaraeon a thechnoleg, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth i'r garreg gopa gael ei gosod ar yr adeilad newydd ar Lôn Sgeti

Bydd y cyfleuster nodedig, pedwar llawr, 2000m2 wrth fynedfa Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn dod â phartneriaid cyhoeddus, preifat ac academaidd ynghyd i greu ecosystem arloesol, y cyntaf o'i bath – â’r nod o wella iechyd y boblogaeth, chwaraeon elît a chymunedol, ac ysgogi twf economaidd ar draws y rhanbarth a’r tu hwnt. Disgwylir i’r adeilad agor yn 2027.

Wedi'i arwain gan Brifysgol  Abertawe a'i gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cyngor Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NISH yw cyflymu twf arloesi ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth a gofal iechyd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gan ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac amlwladol ynghyd.

Mae’r Sefydliad yn cefnogi egin fusnesau a chwmnïau sy'n tyfu drwy weithgarwch deori ac ymchwil a datblygu, a galluogi mynediad at ddata, arbenigedd a chyfleusterau i sbarduno datblygiad cynnyrch. Bydd hefyd yn sbarduno twf economaidd rhanbarthol drwy greu swyddi a buddsoddiad, a gwella iechyd y cyhoedd gan gefnogi mesurau ataliol ac adsefydlu arloesol.

Fel angor Parc Gwyddoniaeth ac Arloesi ehangach, bydd NISH yn lle ar gyfer datblygu, treialu ac uwchraddio technolegau newydd mewn amgylcheddau byd go iawn. Mae mewn sefyllfa unigryw i lenwi bylchau'r DU yn yr isadeiledd technoleg chwaraeon canolog.

Bydd yr adeilad pedwar llawr newydd yn cynnwys:

  • Mannau i gydweithio a chydweithredu
  • Academi Iechyd a Lles
  • Ystafelloedd efelychu chwaraeon o'r radd flaenaf
  • Ystafelloedd arloesi a deori
  • Cyfleusterau addysgu a chyfryngau arloesol

Bydd yr adnoddau hyn yn mynd law yn llaw ag ecosystem ehangach o bartneriaid a chyfleusterau cyfagos, gan gynnwys Ysbyty Singleton, Prifysgol Abertawe, canolfannau hyfforddiant elît, a mannau gwyrdd megis Parc Singleton a Bae Abertawe.

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:

"Rydym wrth ein boddau bod carreg filltir mor bwysig wedi'i chyrraedd i bawb sy'n rhan o wireddu gweledigaeth y Ganolfan. Bydd y cyfleuster hwn yn ganolbwynt ar gyfer arloesi ym maes iechyd a lles, gan helpu i droi ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yn fuddion go iawn i'n cymuned leol a'r economi leol. Drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a chryfder ein partneriaethau rhanbarthol, mae Prifysgol Abertawe'n creu amgylchedd lle gall arloesi ffynnu, gan gefnogi swyddi, sgiliau a thwf cynaliadwy am flynyddoedd i ddod."

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH:

"Mae gweld adeilad NISH yn cyrraedd y cam pwysig hwn yn brofiad hynod gyffrous i ni. Bydd hwn yn lle i ymchwilwyr, busnesau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r gymuned chwaraeon gydweithio a throi syniadau'n effaith yn y byd go iawn. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu partneriaid newydd drwy'r drysau."

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cydbwyllgor Corfforaethol Gorllewin Cymru:

"Mae'r garreg filltir hon yn gam pwysig arall ymlaen i Abertawe a rhanbarth ehangach de-orllewin Cymru. Bydd y Ganolfan Chwaraeon ac Iechyd Genedlaethol yn cryfhau ein henw am arloesi, yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau ac ymchwilwyr, ac yn helpu i sbarduno buddsoddiad, swyddi i weithwyr medrus a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.

"Dyma yn union y math o brosiect cydweithredol sy'n dangos beth sy'n bosib pan fydd partneriaid yn cydweithio i gyflawni buddion tymor hir i'n cymunedau a'n heconomi.

"Mae'n elfen bwysig arall o'r Parc Gwyddor Chwaraeon, yn sgîl creu cyfleusterau newydd ar feysydd chwarae Brenin Siôr V, maes criced newydd, adnewyddu'r stadiwm cymunedol yn San Helen a'r trefniadau newydd ar gyfer Pwll Cenedlaethol Cymru."

Richard Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon:

"Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn dyst i ymroddiad ac arbenigedd pawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect. Bydd y Sefydliad Chwaraeon ac Iechyd Cenedlaethol newydd yn creu cyrchfan unigryw lle gall syniadau gael eu datblygu, eu profi a'u troi'n fuddion yn y byd go iawn. Rydyn ni'n falch o chwarae ein rhan wrth ddarparu cyfleuster a fydd yn helpu i gryfhau enw Abertawe fel canolfan rhagoriaeth ac yn creu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol."

Gellir cyflwyno cais nawr i rentu gofod swyddfa yn NISH, a cheir opsiynau aelodaeth rithwir hefyd. Rhagor o wybodaeth.

Rhannu'r stori