Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe'n rhan o dîm ymchwil rhyngwladol sydd wedi cael cyllid i archwilio cymesuredd mater a gwrth-fater.
Mae'r prosiect, a fydd yn para chwe blynedd, ac sydd wedi'i ariannu gan Grant Synergedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, yn dod ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Heinrich Heine University Düsseldorf a Leibniz University Hannover ynghyd.
Nod y tîm yw cynhyrchu ac astudio ïonau moleciwlaidd gwrth-hydrogen am y tro cyntaf, gan ddefnyddio mesuriadau laser tra-chywir i edrych am wahaniaethau bychan rhwng mater a gwrth-fater. Bydd Prifysgol Abertawe'n cael tua €4.2m (£3.5m) o'r cyllid.
Yn ôl damcaniaeth wyddonol gyfredol, dylai mater a gwrth-fater ymddwyn bron yn unfath, oni bai bod ganddynt wefrau trydanol a phriodweddau magnetig cyferbyniol. Pan maen nhw'n cwrdd, maen nhw'n chwalu, gan ddinistrio ei gilydd.
Mae gwyddonwyr yn credu y dylai'r Glec Fawr fod wedi cynhyrchu cyfansymiau cyfartal o fater a gwrth-fater. Fodd bynnag, mae'r bydysawd heddiw wedi'i greu bron yn gyfan gwbl o fater, sy'n golygu na chwalodd bopeth. Nid yw gwyddonwyr yn deall sut gwnaeth yr anghymesuredd dan sylw ddod i'r amlwg eto, a gall archwilio priodweddau gwrth-fater helpu i ddatrys y cwestiwn hollbwysig hwn sydd heb ateb ar hyn o bryd.
Mae'r Athro Stefan Eriksson o Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe yn arwain cyfraniad y Brifysgol at y prosiect, sydd â’r teitl Extending the Horizons of Precision Antimatter Spectroscopy (EHPAS).
Meddai: "Bydd syntheseiddio rhywogaeth newydd o wrth-fater, yr ïon moleciwlaidd gwrth-hydrogen, yn ein galluogi i astudio gwrth-fater mor fanwl â phosibl fel y gallwn benderfynu a yw'n ymddwyn yn yr un ffordd â mater cyffredin, fel y disgwylir. Bydd darganfod hyd yn oed gwahaniaeth bychan yn gofyn am adolygu damcaniaeth o'r gwaelod i fyny."
Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ïonau moleciwlaidd gwrth-hydrogen, sy'n cynnwys dau antiproton ac un positron. Gall astudio'r gronynnau hyn alluogi gwyddonwyr i wneud cymariaethau mwy tra-chywir rhwng mater a gwrth-fater na fu’n bosibl yn y gorffennol.
Yr her sylweddol gyntaf fydd cynhyrchu'r ïonau moleciwlaidd gwrth-hydrogen. Arweinir y gwaith hwn gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) yn Genefa, sef yr unig gyfleuster yn y byd lle gellir cynnal arbrofion o'r fath ar hyn o bryd.
Mae ymchwilwyr Abertawe eisoes yn rhan o gydweithrediad ALPHA yn CERN, sydd wedi cynhyrchu a chipio atomau gwrth-hydrogen yn llwyddiannus er mwyn galluogi astudiaeth fanwl. Bydd cynhyrchu a storio'r ïonau moleciwlaidd newydd yn ddiogel yn gam nesaf sylweddol.
Dywedodd yr Athro Eriksson: "Er mwyn creu'r ïonau moleciwlaidd gwrth-fater, mae angen y technegau syntheseiddio mwyaf datblygedig, a hyd yn oed bryd hynny, mae'r gyfradd gynhyrchu yn debygol o fod mor isel fel y bydd angen nifer o dreialon cyn y gallwn gynnal mesuriadau tra-chywir. Dyna pam y mae mor bwysig ein bod ni'n cipio pob gwrth-foleciwl, yn ei gadw'n ddiogel ac yn sicrhau nad oes unrhyw foleciwlau'n mynd ar goll yn ystod yr arbrofion."
Pan fydd yr ïonau wedi cael eu cynhyrchu, byddant yn cael eu cludo i labordai arbenigol yn Düsseldorf fel rhan o'r prosiect a arweinir gan yr Athro Stefan Ulmer a Stephan Schiller ar gyfer cymryd mesuriadau manwl. Bydd ymchwilwyr yn defnyddio laserau i archwilio eu priodweddau a chymharu'r canlyniadau â mesuriadau cyfatebol o fater cyffredin.
Bydd y tîm hefyd yn defnyddio arbenigedd grŵp yr Athro Christian Ospelkaus yn Leibniz University Hannover, a fydd yn cyfrannu technegau mesur uwch i helpu i gyflawni'r tra-chywiredd sydd ei angen.
Nod y prosiect yw cwblhau ei fesuriadau cymharol erbyn 2032. Gall canfyddiadau'r prosiect helpu gwyddonwyr i benderfynu a yw mater a gwrth-fater yn ymddwyn yn wahanol a rhoi mwy o ddealltwriaeth iddynt ynghylch pam mae mater wedi dominyddu'r bydysawd.