Llun: Dr Amie Richards
Wrth ystyried ffitrwydd a lles ein plant, gall Cymru yn bendant wneud yn well yn ôl ymchwilwyr arbenigol.
Mae'r Cerdyn Adrodd Plant Egnïol Iach Cymru diweddaraf yn amlygu bod llai na thraean (29%) o blant rhwng 7 ac 16 oed yn actif yn gorfforol am o leiaf 60 munud bob dydd, sy'n golygu mai gradd D sydd gan Gymru am weithgarwch corfforol cyffredinol.
Er bod hyn yn welliant o’i gymharu â chanlyniadau'r adroddiad diweddaraf yn 2021 lle cafodd Cymru radd F yn yr un categori, mae'r ymchwilwyr yn awyddus i weld bod mwy yn cael ei wneud i ddarparu cyfleoedd i'n plant i fod yn actif yn gorfforol bob dydd.
Mae'r cerdyn adrodd yn graddio gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ar draws 11 dangosydd ansawdd gan ddefnyddio'r holl dystiolaeth orau sydd ar gael. Dyma'r pumed adroddiad sydd wedi'i gynhyrchu fel rhan o'r Active Healthy Kids Global Alliance (AHKGA) - rhwydwaith o ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol o fwy na 60 o wledydd sy'n ymrwymedig i wella gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ledled y byd.
Cynhaliwyd yr ymchwil ar gyfer y cerdyn adrodd gan Brifysgol Abertawe, yn gweithio mewn cydweithrediad â chydweithwyr o brifysgolion a sefydliadau ledled Cymru. Arweiniwyd y prosiect gan yr Athro Gareth Stratton a Dr Amie Richards, a Cerys Cole oedd arweinydd yr ymchwil, y tri ohonynt o Brifysgol Abertawe.
Roedd canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:
- Mae plant iau yn fwy actif yn gorfforol na phlant hŷn, er bod ysgolion uwchradd yn perfformio'n well nag ysgolion cynradd yn y dangosydd ysgolion;
- Mae mwy na degawd o fonitro yn amlygu'r angen i droi polisi yn gamau gweithredu. Er gwaethaf datblygiadau parhaus o ran polisi sydd â’r nod o gefnogi gweithgarwch corfforol plant, mae nifer o ddangosyddion wedi dangos nad oes llawer o welliant ystyrlon wedi bod ers 2014; ac,
- mae bylchau sylweddol yn parhau i fodoli mewn data cenedlaethol, sy'n ei wneud yn anodd i asesu anghydraddoldebau a monitro cynnydd.
Dywedodd arweinydd y Prosiect, Dr Amie Richards, o dîm ymchwil Technoleg Chwaraeon, Ymarfer Corff a Meddygaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe: "Rydym yn gyffrous i gyhoeddi'r pumed cerdyn adroddiad hwn - yr un cyntaf ers pandemig Covid-19. Yn y lansiad byd-eang yn Hong Kong y mis nesaf, byddwn ni'n gallu cymharu graddau Cymru â graddau ledled y byd a dysgu sut mae gwledydd eraill yn helpu mwy o blant a phobl ifanc i fod yn actif.
"Bydd yn amserol iawn yn dilyn cyhoeddi Arolwg Chwaraeon Ysgolion Chwaraeon Cymru. Mae'r arolwg hwnnw'n canolbwyntio'n bennaf ar chwaraeon, ac mae ein cerdyn adrodd yn ystyried cydrannau ehangach bod yn actif, megis chwarae actif, teithio llesol a dylanwad cyfoedion a theulu, ond mae'r ddau yn rhannu stori debyg."
Ychwanegodd Cerys Cole, arweinydd yr ymchwil: "Mae gormod o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn colli cyfleoedd i fod yn actif. Nid yw rhan fwyaf graddau Cymru wedi newid llawer ers y cerdyn adrodd diwethaf.
"Mae sicrhau bod plant yn cael dechreuad da mewn bywyd yn rhan o adeiladu Cymru iachach a oedd yn weledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gyda llai nag un o bob tri phlentyn yn actif am o leiaf 60 munud bob dydd, mae ein canfyddiadau'n dangos bod gennym lawer o waith i'w wneud eto er mwyn sicrhau bod plant yn cael dechreuad da mewn bywyd o ran gweithgarwch corfforol.
"Rydym nawr yn galw ar Gymru i droi ei hymrwymiadau polisi yn fwy o gyfleoedd i blant i fod yn actif bob dydd, fel y gall y rhai hynny sy'n cael eu magu yng Nghymru heddiw elwa yn ystod eu plentyndod eu hunain."
Dyma'r graddau:
Gweithgarwch Corfforol: D
Cyfranogiad mewn Chwaraeon wedi'u Trefnu: C-
Chwarae Actif: C+
Cludiant Actif: C
Ymddygiad Eisteddog: F
Llythrennedd Corfforol: C
Ysgol: C+
Cymuned ac Amgylchedd: C
Llywodraeth: B-
Rhoddwyd graddau amhendant i gategorïau Ffitrwydd Corfforol a Theulu a Chyfoedion oherwydd nad oedd tystiolaeth ddigonol.
Dysgwch ragor am Gerdyn Adrodd Plant Egnïol Iach Cymru 2026