Ystafell o bobl yn eistedd mewn ystafell dywyll yn edrych tuag at lwyfan.

Llun: Cyngor Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu bywyd diwylliannol y ddinas yn dilyn lansio menter newydd.

Mae Strategaeth Ddiwylliant pum mlynedd Cyngor Abertawe yn nodi gweledigaeth a rennir i greu profiadau a chyfleoedd newydd ar gyfer talent leol a meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach.

Ei nod yw adeiladu ar gymysgedd unigryw Abertawe o gelfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, creadigrwydd, llyfrgelloedd, twristiaeth, Y Gymraeg a gweithgareddau cymunedol.

Un o elfennau mwyaf arwyddocaol y strategaeth yw'r ffocws ar gryfhau llwybrau talent ar draws economi ddiwylliannol a chreadigol y ddinas. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gyda darparwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch i alinio dysgu ag anghenion sefydliadau diwylliannol a chreadigol, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau, y profiad a'r rhwydweithiau sydd eu hangen i adeiladu gyrfaoedd yn lleol.

Meddai'r Athro Siân Rees, Dirprwy Ddeon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, fod Prifysgol Abertawe wrth ei bodd i fod yn rhan o’r weledigaeth hon. Meddai: Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ar draws nifer o agweddau diwylliannol, gan gynnwys y diwydiannau creadigol, treftadaeth a chwaraeon, ac mae cydweithwyr o'r Brifysgol wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai a thrafodaethau i gefnogi datblygiad y strategaeth.

Rydym yn gweld ein rôl fel un o gydweithio â phartneriaid, megis y Cyngor, ledled y ddinas i feithrin a chefnogi bywyd diwylliannol Abertawe ac i gyfrannu ato; rydym hefyd yn deall y manteision sylweddol y mae gweithgareddau diwylliannol yn eu cynnig i fywyd economaidd y rhanbarth, yn ogystal ag i les myfyrwyr, ymwelwyr a thrigolion y ddinas.

Mae'r Strategaeth yn pwysleisio'r cyfraniad y mae Prifysgol Abertawe eisoes yn ei wneud i fywyd diwylliannol ac economi greadigol y ddinas. Mae ymchwil, arloesi, cyfnewid gwybodaeth a thalent graddedigion yn cael eu hystyried yn hanfodol i lwyddiant Abertawe yn y dyfodol.

O ganlyniad, mae'r camau gweithredu yn cynnwys:

  • nodi bylchau mewn sgiliau ar draws rolau creadigol, diwylliannol a thechnegol;
  • ehangu lleoliadau, cyfleoedd mentora, cyfnodau preswyl a phrentisiaethau;
  • creu llwybrau dilyniant cliriach i gyflogaeth; a
  • sefydlu profiad prosiect a chysylltiadau cryfach rhwng darparwyr addysg a chyflogwyr.

Datblygwyd y Strategaeth drwy fwy na 18 mis o ymchwil, ymgysylltu ac ymgynghori. Cymerodd dros 100 o randdeiliaid ran, a derbyniwyd dros 400 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan drigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau diwylliannol, busnesau, partneriaid yn y sector cyhoeddus a gwasanaethau'r cyngor.

Bydd y cam nesaf yn gweld sefydlu cyfres o grwpiau partneriaeth i gyflawni’r Strategaeth. Bydd y rhain yn dod â sefydliadau diwylliannol, busnesau, partneriaid cymunedol a sefydliadau addysgol ynghyd i lunio a chyflawni camau gweithredu ymarferol dros y pum mlynedd nesaf.

 

Rhannu'r stori