Deeptee Bungaree-Gooheeram, Cyfarwyddwr Gwlad (Mauritius), Adran Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach, Cecilia Wu , Prifysgol Abertawe; Yr Athro Lisa Wallace, Prifysgol Abertawe; Ei Ardderchowgrwydd Paul Brummell CMG, Uchel Gomisiynydd Prydain ym Mauritius.

Yn y llun (chwith i'r dde): Deeptee Bungaree-Gooheeram, Cyfarwyddwr Gwlad (Mauritius), Adran Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach,  Cecilia Wu , Pennaeth Cysylltiol Ymgysylltu Byd-eang, Prifysgol Abertawe; Yr Athro  Lisa Wallace, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol (Rhyngwladol), Prifysgol Abertawe; Ei Ardderchowgrwydd Paul Brummell CMG, Uchel Gomisiynydd Prydain ym Mauritius.

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi rhoi cymeradwyaeth i Brifysgol Abertawe recriwtio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion (MBBCh) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Cefnfor India (SUMSIO), sydd wedi'i lleoli ym Mauritius, mewn cydweithrediad â Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti.

Bydd SUMSIO yn dwyn ynghyd safonau academaidd ac arbenigedd addysgol y DU a chyfleoedd ac anghenion unigryw Mauritius, gan greu cyrchfan newydd ar gyfer hyfforddiant meddygol o ansawdd uchel yng Nghefnfor India. Disgwylir i’r garfan gyntaf  gofrestru ym mis Medi 2027.

Meddai’r Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol (Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Lisa Wallace:

“Mewn cydweithrediad â’n partner Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti, yn ogystal â’n partneriaid gofal iechyd yn y sectorau preifat a chyhoeddus ym Mauritius, rydym yn falch iawn o ddathlu’r garreg filltir bwysig hon yn natblygiad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Cefnfor India.   Hoffwn estyn fy niolch diffuant i bob un o’r cydweithwyr hyn am eu cefnogaeth, ac i’m cydweithwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Uchel Gomisiwn Prydain ym Mauritius a rheoleiddwyr meddygol ac addysg uwch lleol.”

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti, yr Athro Dhanjay Jhurry:

“Mae cymeradwyaeth y GMC i fwrw ymlaen â'r garfan gyntaf ym mis Medi 2027 yn garreg filltir hanesyddol i Mauritius. Wrth i Brifysgol Abertawe baratoi i ddod y sefydliad Prydeinig cyntaf i ddyfarnu gradd feddygol ym Mauritius, rydym yn agor pennod newydd yn rôl ein gwlad fel canolbwynt addysg rhanbarthol. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu uchelgais a rennir: i ddod ag addysg feddygol ragorol yn nes at ddarpar feddygon ar draws Affrica, Cefnfor India ac isgyfandir India, ac i helpu i greu'r gweithlu meddygol sydd ei angen ar ein rhanbarth. Rydym yn falch o wireddu'r weledigaeth hon ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth gref gan y llywodraeth a'n partneriaid gofal iechyd.”

Meddai Uchel Gomisiynydd Prydain i Mauritius, Ei Ardderchowgrwydd Paul Brummell CMG:

"Mae hon yn garreg filltir bwysig i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe Cefnfor India. Mae'n symbol o'r bartneriaeth gynyddol rhwng y DU a Mauritius ym meysydd addysg a gofal iechyd. Dyma gyfle newydd cyffrous i fyfyrwyr ym Mauritius a'r rhanbarth ehangach, ac rydym yn falch iawn o weld arbenigedd o'r DU yn cefnogi uchelgeisiau Mauritius i ddatblygu sgiliau arbenigol a chryfhau ei safle fel canolfan ranbarthol ar gyfer addysg feddygol. Mae presenoldeb Prifysgol Abertawe ym Mauritius yn dangos y cyfleoedd sy’n cael eu creu pan ddaw arbenigedd Prydeinig ac uchelgais Mawrisiaidd at ei gilydd."

Rhannu'r stori