Llun o glawr blaen y llyfr, Contested Histories: Global Perspectives on the Past, Present and Future of Public Monuments.

Mae haneswyr o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi llyfr newydd sy'n archwilio un o ddadleuon mwyaf amlwg yr 21ain ganrif: sut mae cymdeithasau'n ymateb i henebion sy'n gysylltiedig â digwyddiadau hanesyddol anodd, cynhennus a dadleuol.

Cyhoeddwyd y llyfr gan Bloomsbury Academic, dan yr enw Contested Histories: Global Perspectives on the Past, Present and Future of Public Monuments ac mae'n archwilio sut mae cymunedau ledled y byd yn cofio ac yn dehongli'r gorffennol, a'r dadleuon yn ei gylch, drwy henebion a chofebau hanesyddol. Mae’r pwnc hwn wedi denu sylw cynyddol gan y cyhoedd yn y blynyddoedd diweddar.  

Golygwyd y llyfr gan Dr Simon John a'r Athro Tomás Irish o'r Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, ochr yn ochr â Hannah Lyons, a raddiodd o'r Brifysgol hon. Mae'r casgliad yn dod â deg traethawd ynghyd gan academyddion blaenllaw sy’n archwilio henebion a chofebau mewn lleoliadau gan gynnwys Bosnia a Herzegovina, Prydain, India, Iwerddon, yr Eidal, Libya, Ynysoedd Philippines a'r Unol Daleithiau.

Deilliodd y gyfrol o gynhadledd ryngwladol fawr ar gerfluniau a henebion a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2021, yn dilyn dymchweliad cerflun y masnachwr caethweision Edward Colston ym Mryste yn 2020. 

Yn ogystal ag archwilio pam mae henebion yn cael eu creu, mae’r cyfranwyr hefyd yn ystyried sut mae’r cymunedau o’u cwmpas yn ymateb iddynt, yn eu herio ac yn eu trawsnewid.

Mae'r penodau'n archwilio ymatebion sy’n amrywio o ymyriadau artistig ac addasiadau symbolaidd i dynnu henebion, gan daflu goleuni newydd ar sut mae cymdeithasau'n wynebu hanes anodd, a phoenus weithiau, mewn mannau cyhoeddus.

Meddai Dr John, sy'n Athro Cysylltiol mewn Hanes Canoloesol ac yn un o gyd-olygyddion y gyfrol: "P'un a ydym yn sôn am gerflun Rhodes yn Rhydychen neu gerflun Colston ym Mryste sydd bellach wedi’i ddymchwel, mae henebion yn parhau i fod yn bwnc llosg dadleuol yn yr unfed ganrif ar hugain.  Prif nod y gyfrol hon yw dysgu gwersi gan y ffyrdd y mae cymdeithasu wedi ymateb i henebion dadleuol yn y gorffennol, meithrin dealltwriaeth well o bynciau llosg dadleuol ein hoes ein hunain, a sut y gallai'r dadleuon hyn ddatblygu yn y dyfodol."  

Y tu hwnt i faterion dadleuol cyfoes, mae'r gyfrol hefyd yn archwilio sut mae artistiaid, gweithredwyr a chymunedau'n datblygu ymagweddau newydd at goffadwriaeth ar y cyd. 

Ychwanegodd yr Athro Irish, sy'n Athro Hanes Modern ac yn un o gyd-olygyddion y gyfrol:  “Mae Contested Histories yn llyfr pwysig gan ei fod yn amlygu sut a pham mae henebion cyhoeddus wedi sbarduno dadleuon ym mhedwar ban byd yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Er i nifer o'r materion hyn gael eu hamlygu'n gyhoeddus yn ystod haf 2020, mae'r gyfrol yn dangos bod hanes hir o ddadlau ynghylch henebion ac y bydd hynny'n parhau - ac yn esblygu - yn ystod y degawdau sydd i ddod.”

Mae'r llyfr eisoes wedi cael cymeradwyaeth frwd gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.

Meddai'r Athro Erin L. Thompson, Coleg Cyfiawnder Troseddol John Jay: “Mae Contested Histories yn cynnig cyfraniadau gwerthfawr sy’n seiliedig ar ymchwil ddwys at ddadleuon dybryd ynghylch ystyr a dyfodol ein henebion cyhoeddus.”

Meddai Dr Sam Edwards, Prifysgol Loughborough: "Mae'r gyfrol hon yn cynnwys penodau sy'n archwilio lieux de mémoire amrywiol o safbwynt diwylliannol a daearyddol. Dyma ddeunydd darllen hanfodol i bawb sydd â diddordeb mewn deall y wleidyddiaeth gymhleth sydd ynghlwm wrth goffadwriaeth a'r ffordd mae digwyddiadau a ffigurau hanesyddol yn cael eu cynrychioli'n gyhoeddus."

Mae Contested Histories: Global Perspectives on the Past, Present and Future of Public Monuments ar gael fel llyfr clawr called ac fel e-lyfr.

Rhannu'r stori