Llun o blentyn yn defnyddio System Microgyfrifiadur BBC.

Drwy archwilio pwy sy'n defnyddio technoleg, pwy sy'n ei chreu a straeon pwy sy'n cael eu cynrychioli ynddi, nod Cynefin Digidol yw helpu pobl o bob oed i deimlo bod technoleg yn rhywbeth y gallant ei llunio, yn ogystal â'i defnyddio.

Mae prosiect newydd gan Brifysgol Abertawe yn rhoi cyfrifiaduron gweithredol o'r 1980au yn nwylo myfyrwyr ysgol, teuluoedd, ffoaduriaid, ceiswyr gwaith ac oedolion hŷn, gan ddefnyddio treftadaeth gyfrifiadurol Cymru i feithrin hyder a chynhwysiant digidol heddiw.

Mae Cynefin Digidol yn archwilio sut y gall cysylltu pobl â hanes cyfrifiadurol eu cymunedau lleol eu helpu i weld eu hunain fel rhan o fyd sy'n gynyddol ddigidol.

Mae allgáu digidol yn parhau i fod yn her sylweddol ledled Cymru. Mae pobl hŷn, y rhai sy’n ddiwaith a phobl sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd ymhlith y grwpiau sydd leiaf tebygol o deimlo'n hyderus wrth ddefnyddio technoleg, er gwaethaf y galw cynyddol am sgiliau digidol sy’n hanfodol ar gyfer cael mynediad at wasanaethau, cyflogaeth a chyfleoedd pob dydd.

Gan gymryd ei enw o gynefin, sy'n golygu ymdeimlad o le a pherthyn, mae'r prosiect yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod perchnogaeth yn dod cyn hyder. Drwy archwilio pwy sy'n defnyddio technoleg, pwy sy'n ei chreu a straeon pwy sy'n cael eu cynrychioli ynddi, nod Cynefin Digidol yw helpu pobl o bob oed i deimlo bod technoleg yn rhywbeth y gallant ei llunio, yn ogystal â'i defnyddio.

Meddai Dr Megan Venn-Wycherley, arweinydd y prosiect a darlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe: “Mae rhagdybiaeth fod cyfrifiadura wedi digwydd yn rhywle arall: Llundain, neu America. Mae gan Gymru hanes cyfrifiadura anhygoel nad yw llawer o bobl yn gwybod amdano, ac mae’n perthyn i’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw, sy’n cynnwys pobl o bob oed.

“Rydym eisiau i hyn gyrraedd pobl na fyddent byth yn ystyried eu hunain fel ‘pobl gyfrifiadurol’, felly rydym yn mynd i ganolfannau cymunedol, theatrau ac amgueddfeydd, lle bynnag y mae pobl eisoes yn teimlo'n gartrefol.

“Rydym yn awyddus i glywed gan sefydliadau, ysgolion a grwpiau lleol ledled Abertawe a’r rhanbarth cwmpasol a hoffai gynnal sesiwn neu gymryd rhan.”

Mae'r prosiect yn defnyddio Casgliad Hanes Cyfrifiadura Prifysgol Abertawe, gan roi cyfle i gyfranogwyr droi cyfrifiaduron hanesyddol ymlaen a'u defnyddio eu hunain, ochr yn ochr â gweithgareddau datgysylltiedig nad oes angen unrhyw dechnoleg o gwbl arnynt.

Bydd pob sesiwn yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg gan Technocamps, gan adeiladu ar ymrwymiad hirhoedlog Prifysgol Abertawe i ehangu cyfranogiad mewn addysg gyfrifiadurol ledled Cymru.

Meddai Dr Venn-Wycherley: “Mae pobl yn dweud wrthym eu bod nhw’n gweld technoleg yn frawychus, ac nad yw peiriannau modern yn gwneud llawer i helpu. Mae popeth dan sêl ac wedi’i grebachu fel nad oes dim ar ôl i'w weld.

“Daw’r peiriannau yn ein casgliad o gyfnod pan allech chi godi’r caead a dilyn yr hyn a oedd yn digwydd, ac mae hynny’n eu gwneud yn lle llawer mwy croesawgar i ddechrau.”

O fis Medi i fis Rhagfyr 2026, bydd y prosiect yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru drwy fodel cyd-ddylunio, gan alluogi cyfranogwyr i gyd-greu profiadau digidol sy'n adlewyrchu eu diddordebau, eu hanesion a'u safbwyntiau eu hunain.

Bydd Cynefin Digidol hefyd yn cael ei arddangos yng Ngŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol a Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni, lle bydd cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar beiriannau treftadaeth gweithredol, rhannu eu hatgofion a'u profiadau  o dechnoleg, a chyfrannu at yr ymchwil wrth iddi ddatblygu. Bydd y stondin sy'n addas i deuluoedd yn cynnwys cyfrifiaduron, gemau a phosau o’r oes a fu i bob oed.

Ewch i wefan Cynefin Digidol i rannu eich profiadau o gyfrifiadura yng Nghymru a chael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar ddod.

Rhannu'r stori