Cydnabyddiaeth: Benjamin Jones | Prosiect Morwellt.
Mae astudiaeth newydd o bwys a arweiniwyd ar y cyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu bod dolydd morwellt yn cynnig rhwyd ddiogelwch bwysig i filiynau o bobl sy'n byw mewn tlodi yn rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel.
Canfu'r ymchwil fod o leiaf 18 miliwn o bobl sy'n byw mewn tlodi'n pysgota mewn dolydd morwellt ar draws Cefnfor India a’r Môr Tawel. O'r rhain, mae tua 6.5 miliwn yn dibynnu'n llwyr ar y cynefin am gynhaliaeth ac incwm pysgota.
Nododd yr astudiaeth hefyd fod aelwydydd sy'n byw mewn tlodi eithafol yn llawer mwy tebygol o ddibynnu ar ddolydd morwellt am eu holl weithgareddau pysgota. Roedd aelwydydd a oedd yn hollol ddibynnol ar forwellt yn ennill tua 23% yn llai na physgotwyr eraill, sy'n awgrymu bod dibynnu ar y pysgodfeydd hyn yn dal rhai aelwydydd mewn cylch o dlodi arfordirol.
Mae’r astudiaeth, a arweiniwyd gan wyddonwyr o Brosiect Morwellt, gan gynnwys Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, yn amlygu rôl bwysig ecosystemau morwellt wrth gefnogi rhai o gymunedau arfordirol mwyaf bregus y byd.
Planhigion blodeuol yw morwellt sy'n ffurfio dolydd tanddwr helaeth ar hyd arfordiroedd bas. Er nad ydynt mor adnabyddus ag ecosystemau a gydnabyddir yn llawer mwy eang megis riffiau cwrel neu goedwigoedd trofannol, mae dolydd morwellt yn cefnogi pysgodfeydd hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu heb lawer o offer, gan eu gwneud nhw'n arbennig o bwysig i aelwydydd heb ffynonellau incwm neu fwyd amgen. Mae gan fenywod a grwpiau eraill sydd wedi’u hymyleiddio yn aml rolau canolog i'w chwarae yn y pysgodfeydd hyn.
Meddai Dr Benjamin Jones, Prif Swyddog Cadwraeth Prosiect Morwellt: “Mae'r astudiaeth hon yn newid sut mae angen i'r byd weld morwellt. Mae’r rhain yn fwy na dolydd ar gyfer pysgod, crwbanod neu garbon. Maen nhw'n rhwydi diogelwch cudd i filiynau o bobl.
“Pan fydd morwellt yn diflannu, nid dim ond natur sy'n cael ei cholli. Bydd bwyd, incwm a diogelwch hefyd yn diflannu gydag ef, yn aml ar gyfer y bobl sydd leiaf cyfrifol am ei ddirywiad a'r lleiaf abl i addasu. Mae colli morwellt yn fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch bwyd, bywoliaethau a chyfiawnder ar draws rhai o arfordiroedd mwyaf bregus o ran yr hinsawdd yn y byd.”
Yn ôl yr ymchwilwyr, dylai cadwraeth morwellt gael ei hintegreiddio’n well mewn polisïau lliniaru tlodi a datblygu cynaliadwy. Gallai methu cydnabod rôl yr ecosystemau hyn ddwysáu tlodi arfordirol a gwaethygu ansicrwydd bwyd, gan danseilio cynnydd tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar roi terfyn ar dlodi a newyn.
Meddai Dr Leanne Cullen-Unsworth, Prif Swyddog Gweithredol Prosiect Morwellt: “Fwy nag ugain mlynedd yn ôl yn Indonesia, gwnaeth cymunedau arfordirol a chydweithwyr lleol fy helpu i ddeall rhywbeth a oedd yn dal i fod ar goll, i raddau helaeth, o drafodaethau cadwraeth byd-eang: bod rhai o gymunedau arfordirol tlotaf y byd yn dibynnu ar ddolydd morwellt bob dydd am fwyd ac incwm.
“Ers hynny, mae llawer o gydweithwyr, cydweithredwyr a chymunedau wedi cyfrannu at greu'r dystiolaeth sy’n egluro’r berthynas honno. Mae'r astudiaeth hon yn ein helpu ni i weld y raddfa honno am y tro cyntaf.
“Y tu ôl i'r ffigurau hyn mae miliynau o bobl go iawn ac nid problem amgylcheddol haniaethol yw colli morwellt iddyn nhw; gall olygu colli bwyd, incwm a diogelwch. Mae gan hynny oblygiadau dwfn ar gyfer sut mae'r byd yn meddwl am gadwraeth morwellt.”
Mae dolydd morwellt ledled Cefnfor India a’r Môr Tawel yn wynebu pwysau cynyddol o ddatblygiadau arfordirol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Mewn llawer o ardaloedd, mae'r cymunedau sydd fwyaf dibynnol ar yr ecosystemau hyn yn cael braidd dim dylanwad ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu dyfodol.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r dibyniaethau hynny’n debygol o ddwysáu wrth i dwf poblogaethau, cynnydd mewn anghydraddoldebau a newid yn yr hinsawdd roi pwysau ychwanegol ar gymunedau arfordirol.
Meddai Dr Richard Unsworth, Athro Cysylltiol yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe a Phrif Swyddog Gwyddonol Prosiect Morwellt: “Mae'r byd wedi trin colli morwellt fel problem cadwraeth arbenigol yn bennaf. Mae'r astudiaeth hon yn dangos ei fod hefyd yn fater datblygiad a sicrwydd bwyd.
“Ni all llywodraethau a sefydliadau rhyngwladol fynd i'r afael â thlodi arfordirol ag unrhyw hygrededd wrth ganiatáu i ecosystemau sy'n sail i systemau bwyd lleol ddiflannu.”