Mae gŵyl wyddoniaeth fwyaf Cymru'n dychwelyd i Abertawe yr hydref hwn i ddathlu ei degfed pen-blwydd, a bydd yn cynnwys rhaglen lawn o sioeau cyffrous, sgyrsiau, arddangosiadau a gweithgareddau ymarferol i bobl o bob oed.
Mae'r wŷl hon, a gynhelir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Hydref.
Ers lansio'r wŷl yn 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi datblygu'n ddigwyddiad poblogaidd yng nghalendr diwylliannol y ddinas, gan ddod â phobl o bob oedran ynghyd i ddarganfod y wyddoniaeth sy’n sail i'r byd o'u cwmpas.
Mae rhaglen eleni'n cynnwys cyfuniad o ddigwyddiadau am ddim a digwyddiadau â thocynnau rhad, a gwahoddir ymwelwyr i ddarganfod y wyddoniaeth sy’n sail i bopeth, o beirianneg arloesol a thechnoleg werdd i gynrhon meddygol, bomiau bath a byd hudolus Harry Potter.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sioe ar gyfer y teulu gan Grace Webb, seren rhaglen arobryn CBeebies, Grace's Amazing Machines. Bydd hi'n mynd â chynulleidfaoedd i'w gweithdy trydanol i ddarganfod sut mae dyfeisiau gwyrdd yn gweithio a beth sy'n eu gwneud nhw'n arbennig.
Bydd y crëwr YouTube a seren CBeebies, Maddie Moate, hefyd yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith ryngweithiol i'r peiriannau a'r dechnoleg rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.
Bydd y cyfathrebwr gwyddoniaeth arobryn, Jon Chase, yn archwilio'r wyddoniaeth sy’n sail i fyd hudolus Harry Potter, a bydd Techniquest yn taflu goleuni ar gyfraniad Cymru at wyddoniaeth a darganfyddiad.
Hefyd, cynhelir digwyddiad arbennig ar y noson cyn Calan Gaeaf, gyda dwy o'r cystadleuwyr mwyaf cofiadwy o The Traitors, Fiona ac Amanda. Bydd Dr Alex Jones, seicolegydd o Brifysgol Abertawe, yn ymuno â nhw i archwilio gwyddoniaeth twyll, ymddiriedaeth ac ymddygiad dynol.
Ochr yn ochr â’r rhaglen y mae angen tocynnau ar ei chyfer, gall ymwelwyr fwynhau gweithgareddau galw heibio ac arddangosfeydd rhyngweithiol am ddim ledled yr amgueddfa.
Meddai'r Athro Siwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: "Rydym yn falch o ddathlu degfed pen-blwydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yr hydref hwn. Ers i ni lansio'r ŵyl am y tro cyntaf yn 2016, mae'r ŵyl wedi datblygu i fod yn un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol Abertawe, gan ysbrydoli pobl o bob oedran a chan arddangos y ffyrdd rhyfeddol y mae gwyddoniaeth yn llywio ein byd.
"Ochr yn ochr â’n partneriaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, rydym wedi rhoi rhaglen arbennig ac amrywiol ynghyd, sy'n amrywio o ymchwil arloesol i sioeau ar gyfer y teulu. Edrychwn ymlaen at groesawu'r gymuned i ddathlu degawd o ddarganfod, gwyddoniaeth ac arloesi."
Gweler y rhaglen lawn ac archebwch docynnau.
Cefnogir Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe gan Sefydliad Waterloo.