Credyd: Christian Werner.
‘Piedmont’ gan Ben Fergusson sydd wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2026.
Mae'r wobr hon yn cydnabod y straeon byrion gorau, nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi, yn Saesneg ac sydd wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw ffurf ac ar unrhyw bwnc, heb fod yn hwy na 5,000 o eiriau. Rhaid iddynt gael eu hysgrifennu gan ysgrifenwyr 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sydd yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae ‘Piedmont’ yn adrodd stori dwy fam sy'n cyrraedd yr Eidal yng nghanol nos. Maen nhw'n ddieithriaid sy'n dod ynghyd o ganlyniad i amgylchiadau digynsail sy'n ymwneud â’u meibion. Wrth iddynt wynebu tiriogaeth anghyfarwydd, gwirioneddau anhysbys ac atgofion ystumiedig, maen nhw'n ymladd â’u hymdeimlad o'r hunain a chyfrifoldeb yn y stori ryfeddol hon am gariad a cholled.
Dywedodd Ben, sy'n bedwar-deg-chwech oed ac sy'n byw yn y Fenni gyda'i ŵr a'i fab: "Mae'n syrpréis fawr ac yn anrhydedd enfawr i ennill Gwobr Stori Fer Rhys Davies eleni. Ac i fod ymhlith ysgrifenwyr mor ardderchog o Gymru yn antholeg eleni.
"Mae ‘Piedmont’ yn stori arbennig i mi. Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu'r stori hon ar ôl ymweld â Piedmont yn yr Eidal, a'r syniad o ysgrifennu am agweddau ar fywyd priodasol hoyw, o fod yn rhiant i fod yn weddw a cholled, a fyddai wedi bod yn annirnadwy ychydig ddegawdau'n ôl. Fel gŵr a thad hoyw sy'n byw yng Nghymru, mae'n teimlo'n addas iawn i ennill gwobr a enwyd er anrhydedd i Rhys Davies - awdur hoyw o Gymru nad oedd yn medru ysgrifennu'n benodol am gymeriadau hoyw yn y cannoedd o straeon byrion a ysgrifennodd. Ond drwy gyfrwng ysgrifennu creadigol, roedd yn parhau i allu datod syniadau ynghylch ceidwadaeth gymdeithasol a chymhlethdodau newidiol perthnasoedd a hunaniaethau personol.
"Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r darllenwyr, y beirniad a'r trefnwyr am y wobr arbennig hon."
Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd ym 1991, wedi cael ei chynnal 13 o weithiau hyd yn hyn. Yn 2021, cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.
Dywedodd Tyler Keevil, yr awdur ffuglen uchel ei fri a'r beirniad gwadd: "Mae'r holl straeon a ddewiswyd i gyrraedd y rownd derfynol yn atgofus, yn gyfareddus ac wedi'u hysgrifennu mewn ffordd hardd. Mewn cystadleuaeth mor gryf, roedd hi'n anodd iawn dewis enillydd cyffredinol. Roedd ‘Piedmont’ yn creu argraff oherwydd ei chymeriadaeth gyfoethog, ei hymdeimlad o bathos, a'i defnydd nodedig o safbwynt traethiadol. Fel nifer o straeon byrion clasurol, mae'n teimlo'n fwy na stori fer: mae ganddi ddyfnder a chwmpas nofel, a'i phrif neges yn amlwg. Mae'n stori hardd iawn."
Fel yr enillydd, bydd Ben yn cael £1,000 a bydd ei stori'n cael ei chynnwys yn Antholeg Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2026, a gyhoeddir gan Parthian ym mis Hydref. Bydd straeon gan y cystadleuwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn ymddangos yn yr antholeg.
Bydd yr enillydd, Ben, y beirniad, Tyler Keevil, y golygydd, Elaine Canning a Richard Davies o Parthian, a'r cystadleuwyr eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2026, yn trafod yr antholeg yn y digwyddiad lansio am ddim a gynhelir yn Waterstones Abertawe nos Fercher 28 Hydref am 6pm.