Llun: Shutterstock
Gall colli'r ysgol gael effaith negyddol ar ddyfodol pobl ifanc – o ran eu hiechyd, eu cyflogaeth a’u llwyddiant. Mae presenoldeb gwael wedi dod yn bryder iechyd cyhoeddus cynyddol ers y pandemig, a cheir adroddiadau am gyfraddau absenoldeb cynyddol mynych.
Wrth i ysgolion ddychwelyd am flwyddyn academaidd newydd, mae arbenigwyr wedi bod yn ymchwilio'n fanwl i ba strategaethau ac ymyriadau y gellid eu defnyddio i wneud gwahaniaeth.
Mae eu hastudiaeth newydd wedi adolygu a dadansoddi tystiolaeth o 61 o hap-dreialon dan reolaeth a gynhaliwyd yn Awstralia, Canada, Seland Newydd, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.
Mae'r ymchwil newydd gael ei chyhoeddi yn y Journal of Epidemiology & Community Health, a bu'n canolbwyntio ar astudiaethau a oedd yn cynnwys disgyblion oedran ysgol gynradd neu uwchradd, eu rhieni, eu gwarcheidwaid neu eu hathrawon.
Ac maen nhw'n dweud bod gan rieni rôl allweddol. Dangosodd eu dadansoddiadau mai cyfranogiad rhieni ac ymyriadau mentora oedd y mesurau mwyaf effeithiol yn gyson, yn enwedig ymhlith y grwpiau oedran iau, gan arwain at welliannau bach mewn presenoldeb.
Cafwyd effeithiau cadarnhaol ar bresenoldeb hefyd o ganlyniad i addysgu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, ymyriadau ymddygiadol a'r rhai hynny sy'n targedu disgyblion risg uchel, ond roedd llai o dreialon wedi'u cynnal gan ddefnyddio'r mathau hyn o ymyriadau, felly mae'n fwy anodd bod yn sicr o'u heffaith.
Mae'r adolygiad yn amlygu bod angen cynnal rhagor o dreialon yn y DU mewn perthynas â’r pwnc hwn er mwyn helpu i lywio polisi a mynd i'r afael â chyfraddau presenoldeb ysgol sy'n dirywio.
Meddai prif awdur yr adolygiad, yr Athro Ann John o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae absenoldeb mynych yn effeithio ar gyfleoedd bywyd plant. Mae'n fater sy'n effeithio'n anghymesur ar blant difreintiedig, gan gynyddu gwahaniaethau sydd eisoes yn bod ym mherfformiad disgyblion yn yr ysgol. Mae dechrau blwyddyn ysgol newydd yn tynnu sylw newydd at y broblem a sut gallwn fynd i'r afael â hi.
"Mae ein canfyddiadau ni'n cryfhau'r dystiolaeth bod angen ymagweddau sy'n ymateb i achosion cymhleth absenoldeb o'r ysgol i wella presenoldeb, yn hytrach na dibynnu ar un ateb yn unig.
"Yn benodol, gall gweithio'n agos gyda rhieni a darparu cymorth cyson, sy’n debyg i fentora, i'r unigolyn wneud gwahaniaeth. Y flaenoriaeth nawr yw adeiladu ar y dystiolaeth hon a deall sut gellir defnyddio'r ymagweddau hyn yn effeithiol yn ein hysgolion."
Oherwydd bod llawer o resymau dros yr absenoldebau, cred yr ymchwilwyr y byddai un ymagwedd i bawb yn methu diwallu anghenion myfyrwyr gwahanol.
Fodd bynnag, dywedant y byddai defnyddio ymyriadau sy'n gofyn am ymrwymiad rhieni fod o fudd ar raddfa fawr, oherwydd effeithiolrwydd a rhwyddineb cymharol rhoi'r math hwn o ymyriad ar waith yn genedlaethol.
Cafodd yr adolygiad tystiolaeth hwn ei gynnig gan yr Athro John a rhaglen Dyfodol gan Goleg Brenhinol y Seicolegwyr, ar ôl i Lywodraeth Cymru nodi bod presenoldeb ysgol ac absenoldeb o'r ysgol yn faes blaenoriaeth.