Dr Jacky Tyrie a chlawr Young Children’s Participation: Exploring Practice in Early Education and Care

Mae arbenigwr mewn addysg plentyndod o Brifysgol Abertawe wedi helpu i greu gwerslyfr hygyrch a chynhwysfawr ar hawliau cyfranogol plant mewn addysg gynnar a lleoliadau gofal.

Caiff cyfranogiad plant ei gydnabod fel hawl sylfaenol dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n nodi bod gan blant yr hawl i fynegi eu barn a chael eu clywed mewn materion sy'n effeithio arnynt.

Mae Young Children’s Participation: Exploring Practice in Early Education and Care (Routledge), wedi'i gyd-olygu gan Dr Jacky Tyrie o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe a Dr Jane Waters-Davies o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn dod ag ymchwil, damcaniaeth ac enghreifftiau ymarferol ynghyd i archwilio'r hyn mae cyfranogiad plant yn ei olygu mewn ymarfer.

Mae'r llyfr ar gyfer myfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes plentyndod cynnar ac addysg gynnar, yn ogystal ag ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ifanc a myfyrwyr ôl-raddedig.

Mae'n archwilio sut gall ymarferwyr symud y tu hwnt i ofyn i blant am eu safbwyntiau, tuag at greu amgylcheddau pob dydd lle gall safbwyntiau plant ddylanwadu ar benderfyniadau a phrofiadau dysgu.

Mae'r llyfr hefyd yn archwilio rhai o'r heriau sy'n rhan o roi hawliau cyfranogol plant ar waith, gan gynnwys y ffyrdd gwahanol y caiff lleisiau, dylanwad a chyfranogiad plant eu deall.

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Y cyd-destun polisi ar gyfer hawliau cyfranogol plant
  • Modelau cyfranogiad
  • Lleisiau plant a chael eu clywed
  • Cyfranogiad a dehongliad cymdeithasol o blentyndod
  • Creu lleoedd ar gyfer cyfranogiad
  • Dylanwad a chyfranogiad
  • Mesur cyfranogiad
  • Ymagweddau rhyngwladol at gyfranogiad plant

Dywedodd Dr Jacky Tyrie: "Mae'r llyfr hwn yn archwilio sut gall cyfranogiad symud y tu hwnt i ymgynghoriad er mwyn dod yn rhan sefydlog o ymarfer plentyndod cynnar pob dydd. Rydym yn gyffrous iawn bod myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol bellach yn gallu cael gwybodaeth ymarferol am wrando ar blant, cydnabod eu safbwyntiau, a chreu amgylcheddau lle mae lleisiau plant ifanc yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau a phrofiadau dysgu."

Wedi'i ddisgrifio gan feirniad fel "adnodd amserol a chyfoethog", mae Young Children's Participation: Exploring Practice in Early Education and Care (Routledge) ar gael fel llyfr clawr caled, clawr papur ac fel e-lyfr.

Rhannu'r stori