Yr Athro Ann John

Mae'r Athro Ann John OBE, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi cyd-awduro On Your Side, the Suicide Prevention Toolkit for Sport – adnodd newydd a gynlluniwyd i gryfhau gwaith atal hunanladdiad a chymorth ar draws y sector chwaraeon.

Wedi'i gyd-gynhyrchu gan The Royal Foundation, BSI a Hub of Hope, mae'r pecyn cymorth yn dwyn ynghyd wybodaeth arbenigol, tystiolaeth ac ymestyniad a dylanwad unigryw chwaraeon i helpu pobl i adnabod yr arwyddion bod rhywun efallai'n cael trafferth, a gwybod sut i ymateb.

Mae'r adnodd wedi'i anelu at bobl ar bob lefel o chwaraeon, gan gynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr, staff, gwirfoddolwyr, teuluoedd a gwylwyr. Mae'n rhoi arweiniad ymarferol ar adnabod arwyddion rhybudd, cychwyn sgyrsiau a chefnogi rhywun a allai fod mewn perygl.

Cyfrannodd yr Athro John – arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes atal hunanladdiad, ymchwil i hunan-niweidio a gwyddor data iechyd meddwl – ei harbenigedd i’r pecyn cymorth, ochr yn ochr ag arbenigwyr eraill, sefydliadau chwaraeon a phobl â phrofiad byw a safbwyntiau gwahanol.

Meddai’r Athro John: "Ar ôl cyd-awduro On Your Side, the Suicide Prevention Toolkit for Sport, credaf fod ei wir gryfder yn gorwedd yn y ffaith ei fod yn cyfuno grym ac ymestyniad unigryw chwaraeon â thrylwyredd safon BSI.

"Nid cyfle i gryfhau atal hunanladdiad ar draws chwaraeon yn unig yw hwn. Gall rhoi glasbrint ar gyfer sectorau eraill – gan ddangos beth sy'n bosibl pan gyfunir pŵer dwyn ynghyd, cyd-gynhyrchu ac ehangder sector â chryfder safon sefydledig, er mwyn troi tystiolaeth ac egwyddorion yn gamau gweithredu ymarferol.”

Lansiwyd yr arweinlyfr ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd 2026 yn Stadiwm Hill Dickinson Everton gan Dywysog Cymru, ochr yn ochr â ffigyrau chwaraeon blaenllaw gan gynnwys Harry Kane, Alan Shearer, Dame Kelly Holmes, Gabby Logan a Jill Scott.

Ewch i wefan On Your Side

Rhannu'r stori