Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd safle 25 yn The Guardian University Guide 2027, cynnydd o saith safle oddi ar y llynedd.
Yn wahanol i dablau cynghrair sydd yn canolbwyntio ar ymchwil academaidd, mae'r Guardian University Guide yn helpu darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd i ddewis ble i astudio, gan werthuso 123 o sefydliadau yn y DU ar ffactorau megis ansawdd addysgu, boddhad myfyrwyr, maint dosbarthiadau a chanran y graddedigion sy'n cael swyddi lefel raddedig neu sy'n ymgymryd ag addysg bellach o fewn 15 mis o orffen eu gradd.
Yn ogystal â chyrraedd safle 25 y DU yn gyffredinol, mae Abertawe wedi rhagori mewn safleoedd pwnc unigol, gan sicrhau safleoedd ymhlith y 10 gorau mewn naw maes:
- Sŵoleg – 1af
- Gwyddor Barafeddygol – 3ydd
- Fferylliaeth a Ffarmacoleg – 4ydd
- Peirianneg Fecanyddol – 5ed
- Astudiaethau’r Cyfryngau a Ffilm – 6ed
- Ieithoedd ac Ieithyddiaeth – 7fed
- Peirianneg Gyffredinol – 8fed
- Meddygaeth – 9fed
- Troseddeg – 9fed
At hynny, mae 11 pwnc arall ymhlith yr 20 gorau megis Proffesiynau Iechyd, Economeg a Saesneg, a saith pwnc arall ymhlith y 30 gorau, yn cynnwys Y Gyfraith a Gwyddor Chwaraeon.
Meddai’r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn arbennig o falch o gyrraedd safle 25 yng nghanllaw diweddaraf y Guardian. Mae gweld perfformiad cyn gryfed ar draws ystod eang o feysydd pwnc yn rhoi boddhad arbennig, ac yn adlewyrchu rhychwant ac ansawdd yr addysg ddarparwn ni yma yn Abertawe.
“Rydym wedi ymrwymo i roi profiad rhagorol i’n myfyrwyr a’u cefnogi i gyflawni eu potensial, yn ystod, a thu hwnt i’w cyfnod gyda ni. Rydym yn dymuno i’n graddedigion adael Abertawe gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd angen arnynt er mwyn gallu cymryd y camau nesaf yn eu bywydau a’u gyrfaoedd. Mae’n wych gweld cydnabyddiaeth i hyn oll yng Nghanllaw eleni, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y perfformiad cryf hwn.”