Llun o Zoe'n rhoi cyflwyniad. Yn y gornel dde, ceir llun arall o Zoe, llun pen y tro hwn.

Bydd yr ymchwilydd PhD Zoe Alderson yn cyflwyno ei gwaith ymchwil arloesol ar ddylunio niwrogynhwysol mewn cynhadledd seicoleg ryngwladol o fri.

Mae gwaith ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, a allai helpu i greu eiconau a symbolau mwy cynhwysol ar gyfer pobl niwrowahanol, wedi cael ysgoloriaeth o fri i’w galluogi i gyflwyno ei chanfyddiadau mewn cynhadledd seicoleg ryngwladol flaenllaw.

Mae'r ymchwilydd PhD Zoe Alderson, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, wedi cael cyllid drwy Ysgoloriaeth Deithio Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i fynd i Gyfarfod Blynyddol 2026 y Gymdeithas Seiconomig  yn San Diego.

Mae gwaith ymchwil Zoe'n archwilio sut mae pobl niwrowahanol yn deall ac yn prosesu eiconau a symbolau a ddefnyddir ym mywyd pob dydd, o arwyddion cyhoeddus a systemau trafnidiaeth i wefannau, apiau a chyfathrebu digidol.

Rydym yn dibynnu fwyfwy ar y symbolau gweledol hyn i gyfleu gwybodaeth heb yr angen am destun, ond eto ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am a ydynt yn gweithio cystal i ddefnyddwyr niwrowahanol a niwronodweddiadol.

Mae ei chanfyddiadau diweddaraf yn dangos bod cyfranogwyr niwrowahanol yn ymateb i symbolau gweledol yn gyflymach ac yn fwy cywir na chyfranogwyr niwronodweddiadol, gan amlygu'r gwahaniaethau mewn prosesu gwybyddol a allai helpu i lywio arferion dylunio mwy cynhwysol.

Mae gan y canfyddiadau hyn berthnasedd cynyddol yng Nghymru, lle mae sefydliadau a chyrff cyhoeddus yn ceisio chwilio am ffyrdd yn gynyddol i wella hygyrchedd a chreu mwy o amgylcheddau a gwasanaethau niwrogynhwysol.

Meddai Zoe: "Fel rhywun sydd ag ASD ac ADHD, rwy'n angerddol am wella dealltwriaeth o sut mae pobl niwrowahanol yn profi'r byd o'u cwmpas. Mae eiconau a symbolau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i gyfleu ystyr, ond eto mae ein dealltwriaeth o sut mae grwpiau gwahanol yn eu prosesu nhw'n gyfyngedig.

"Diolch i'r dyfarniad hwn gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, byddaf yn gallu rhannu fy nghanfyddiadau ag arbenigwyr rhyngwladol o fri, gan gael adborth gwerthfawr a datblygu cydweithrediadau a fydd yn cryfhau fy ngwaith ymchwil yn y dyfodol".

Mae'r gwaith ymchwil eisoes yn denu diddordeb y tu hwnt i’r byd academaidd. Yn dilyn cyflwyniad blaenorol mewn cynhadledd, gwahoddwyd Zoe i drafod ei chanfyddiadau â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sut y gallent helpu i lywio mentrau hygyrchedd yn y dyfodol yng Nghymru.

Dewiswyd Zoe am yr ysgoloriaeth drwy broses gystadleuol a oedd yn agored i ymchwilwyr Prifysgol Abertawe ar gam cynnar eu gyrfaoedd.

Meddai Sylvia Robert-Sargeant, aelod o bwyllgor dyfarniadau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru: “Un o nodau'r Cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i barhau â phrosiect penodol. Mae'r cyfle amserol hwn i Zoe’n dangos sut gall gwaith mor werthfawr wneud cyfraniad hollbwysig i sefydliadau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n chwilio fwyfwy am ffyrdd o wella hygyrchedd a chreu amgylcheddau mwy niwrogynhwysol i'r gymuned.

"Rydym yn codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol a hefyd drwy estyn allan, nid yn unig i'n lifreiwyr am gymorth ariannol, ond hefyd i'r gymuned ehangach yng Nghymru. Rydym yn annog sefydliadau Cymreig tebyg sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau. Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Zoe wrth fwrw ymlaen â'r prosiect hwn a rhannu ei gwaith ymchwil pwysig â chynulleidfa ryngwladol a dylanwadol ehangach."

Mae Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a sefydlwyd ym 1993, yn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau ar draws Cymru. Drwy ei raglen dyfarniadau flynyddol, mae'n cefnogi pobl ifanc i feithrin eu doniau a'u sgiliau drwy gynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr, prentisiaid ac aelodau'r lluoedd arfog.

Dysgwch fwy am y Gydfadran Meddygaeth, Iechyd, A Gwyddor Bywyd.

Rhannu'r stori