Delwedd agos o sgrîn ffôn symudol gyda apiau cyfryngau cymdeithasol

Llun: Pexels

Mae galw cynyddol am ddeddfwriaeth a chyfyngiadau mwy llym ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc.   

Mae tystiolaeth yn dangos bod niweidiau posibl yn cyd-fodoli ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer cymorth a chysylltiad mewn argyfwng.

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (NCSR) ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn archwilio'r broblem drwy ddadansoddi safbwyntiau defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol.

Mae arbenigwyr yn poeni bod gan gyfyngiadau ar raddfa fawr y potensial i ddileu lleoedd cefnogol ar gyfer y rhai hynny sydd eu hangen fwyaf. Mae tystiolaeth bresennol am effaith cyfyngiadau'n brin, ac mae gwerthusiadau cynnar o'r gwaharddiad yn Awstralia yn dangos bod oddeutu 8 o bob 10 plentyn yn parhau i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

O ganlyniad, mae angen rhagor o dystiolaeth er mwyn deall sut i greu lleoedd diogel ar-lein.

Mae'r tîm yn credu mai dyma'r astudiaeth gyntaf sy'n casglu safbwyntiau unigolion sydd wedi hunan-niweidio am nodweddion diogelwch y cyfryngau cymdeithasol.

Ar gyfer ei ymchwil, cynhaliodd y tîm arolwg gyda mwy na 5,000 o ymatebwyr yn ogystal â chyfweliadau manwl gydag 17 o bobl - roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi hunan-niweidio, a phob un ohonynt wedi edrych ar gynnwys ar-lein a oedd yn ymwneud â hunan-niweidio. Gofynnodd y tîm am brofiadau'n ymwneud â chynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio, y cyfyngiadau cynyddol a'r negeseuon diogelwch a gyflwynwyd gan rai platfformau yn 2019, yn ogystal â nodweddion diogelwch penodol.

Roedd canfyddiadau'r tîm, sydd newydd gael eu cyhoeddi gan The Journal of Medical Internet Research (JMIR), yn cynnwys:

  • roedd hanner yr ymatebwyr yn credu bod cyflwyno'r cyfyngiadau ychwanegol yn gwneud i'r cyfryngau cymdeithasol deimlo'n fwy diogel; Dywedodd 34.9% o'r ymatebwyr fod y cyfyngiadau wedi newid yr hyn roedden nhw'n ei weld, a dywedodd 9.9% o'r ymatebwyr fod y cyfyngiadau wedi newid yr hyn roedden nhw'n ei rannu;
  • roedd 79.4% o'r ymatebwyr yn credu y gallai'r cyfyngiadau wneud i rywun deimlo'n wael neu'n unig. Gwnaeth y bobl y cyfwelwyd â nhw drafod lleoedd cefnogol yn cael eu rhwystro gan sensoriaeth naratifau adferiad a chynnydd mewn unigrwydd ymhlith y rhai hynny sy'n dibynnu ar y cymunedau hyn; 
  • dywedodd fwy na 90% o'r ymatebwyr y bydden nhw'n debygol o glicio ar bost gyda rhybudd cyffredinol am gynnwys, ond dim ond 40% o ymatebwyr fyddai'n edrych ar bost gyda rhybudd penodol ar gyfer hunan-niweidio - roedd cael rhybuddion penodol ar gyfer cynnwys yn ymwneud â hunan-niweidio a hunanladdiad yn golygu bod modd iddynt ddewis;
  • roedd cynnwys gan 21.1% o'r ymatebwyr wedi cael ei wahardd neu ei ddileu oherwydd roedd eu creithiau hunan-niweidio yn weladwy. Nododd 90% o'r ymatebwyr fod hyn yn niweidiol, gyda chanfyddiadau tebyg ar gyfer straeon yn ymwneud ag adferiad;
  • roedd 87.8% o'r ymatebwyr eisiau mwy o reolaeth dros y cynnwys maen nhw'n ei weld; ac,
  • roedd awydd i gynyddu diogelwch ar gyfer pobl iau, er enghraifft drwy deilwra platfformau ar gyfer defnyddwyr iau gyda nodweddion cyfyngedig.

Dywedodd Dr Amanda Marchant, awdur cyntaf yr astudiaeth: "Er y gall cyfyngiadau leihau cynnwys niweidiol, gallant hefyd gyfyngu ar naratifau adferiad a chymorth cymunedol yn anfwriadol. Mae angen gwerthusiad parhaus i sicrhau bod amgylchiadau cefnogol ar gael, gan barhau i leihau niwed ar yr un pryd.

"Yn ogystal â newidiadau i ddiogelwch, dylen ni hefyd ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel cyfle i gyfeirio, gan leihau stigma a chreu cymunedau cefnogol."

Mae'r ymchwilwyr yn galw am ddatblygu cyfyngiadau a pholisïau gyda phobl ifanc a phobl sydd â phrofiad personol, a phrofi'r cyfyngiadau a'r polisïau'n drylwyr cyn eu rhoi ar waith.

Maen nhw'n dweud bod dadansoddi cyfyngiadau a nodweddion yn hanfodol fel y gall platfformau barhau i wella a chreu lleoedd diogel gan leihau niweidiau posibl.

Dywedodd yr Athro Ann John, yr uwch-awdur a Chyfarwyddwr NCSR: "Mae llawer o ansicrwydd yn y sail dystiolaeth bresennol ar gyfer gwaharddiadau'r cyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dan 16 oed gyda'r posibilrwydd o ganlyniadau anfwriadol, gan gynnwys llai o fynediad i leoedd cefnogol, unigrwydd a gwthio pobl ifanc i leoedd mwy tywyll a chudd ar y we.

"Mae gwaharddiadau'r cyfryngau cymdeithasol yn golygu y bydd plant a phobl ifanc yn llai tebygol o drafod eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a phryderon sydd ganddynt gydag oedolion y maen nhw'n ymddiried ynddynt. Mae hefyd yn anodd rhoi'r gwaharddiadau hyn ar waith. Dylid cyd-ddylunio, profi a gwerthuso ymyriadau ar-lein cyn eu cyflwyno ar raddfa fawr."

Ychwanegodd Dr Marchant: "Dywedodd bron 90% o ymatebwyr yr arolwg eu bod eisiau rheolaeth fwy personol dros yr hyn y maen nhw'n ei weld, gan amlygu bod angen i reolaethau fod yn hawdd eu defnyddio ac yn sythweledol. Byddai hyn yn cynyddu gallu pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar-lein, a gellir ei roi ar waith gan ddarparwyr platfformau."

Darllenwch y papur yn llawn: Experiences of Social Media Platforms’ Policies and Restrictions Related to Self-Harm Content: Mixed Methods Study

 

Rhannu'r stori