Mae'r Athro Siraj Shaikh yn ymuno â 71 o arbenigwyr blaenllaw a ddewiswyd i roi mynediad cyflym ac annibynnol i'r adran at arbenigedd gwyddoniaeth a thechnoleg y DU.
Mae Siraj Shaikh, Athro mewn Diogelwch Systemau ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei benodi i Goleg Arbenigwyr newydd yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT), sef rhwydwaith o arbenigwyr annibynnol a fydd yn rhoi mynediad cyflym a hyblyg i DSIT at arbenigedd gwyddonol a thechnegol blaenllaw.
Lansiwyd y Coleg yn ffurfiol ar 18 Mehefin 2026 yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain, gan ddod ag aelodau o brifysgolion, byd diwydiant a sefydliadau ymchwil ynghyd ledled y DU.
Mae'r Athro Shaikh yn un o 71 o aelodau a gafodd eu dewis drwy broses gystadleuol a ddenodd bron 1,200 o geisiadau.
Mae aelodau'n gwirfoddoli hyd at bum niwrnod y flwyddyn i gefnogi gwaith y Llywodraeth; gall hyn gynnwys sgyrsiau ymgynghorol byr, gweithdai ac adolygu gan gymheiriaid.
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Shaikh wrth groestoriad seiberddiogelwch, peirianneg systemau a chyfrifiadureg, gan fynd i'r afael â diogelwch systemau seiber-ffisegol ar gyfer systemau modurol a chludiant.
Am ei benodiad, dywedodd yr Athro Shaikh, "Fel aelod o Goleg Arbenigwyr DSIT, mae fy rôl yn pontio'r bwlch rhwng arloesi gwyddonol rheng flaen a llywodraethiant cenedlaethol. Drwy ddarparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn gyflym i'r Prif Gynghorydd Gwyddonol yn DSIT, byddaf yn llywio'n uniongyrchol fframwaith polisi'r DU ar dechnolegau allweddol a thechnolegau sy'n dod i'r golwg. Byddaf yn canolbwyntio ar ddilysu strategaethau technegol cymhleth, gan nodi risgiau rheoleiddiol yn y dyfodol ac amlygu'r bylchau cuddiedig yn y dystiolaeth. Yn y pen draw, mae'r rôl hon yn fy ngalluogi i sicrhau bod ymagwedd y DU at wyddoniaeth ac arloesi'n ddiogel, yn wydn ac wedi'i seilio ar dystiolaeth gadarn, yn ogystal â bod yn gystadleuol yn fyd-eang ac yn economaidd hyfyw."
Meddai'r Athro Chris Johnson, Prif Gynghorydd Gwyddonol DSIT a Phennaeth Coleg yr Arbenigwyr: “Daeth lansiad Coleg yr Arbenigwyr yn y Gymdeithas Frenhinol â grŵp neilltuol o arbenigwyr annibynnol ynghyd o bob cwr o'r DU, gan rychwantu Deallusrwydd Artiffisial, gwyddoniaeth gwantwm, y gwyddorau bywyd, seiberddiogelwch a llawer mwy. Mae'r arbenigwyr yn rhoi o'u hamser i'n cefnogi ni, gan adlewyrchu ymrwymiad gwirioneddol gan gymuned ymchwil ac arloesi'r DU i gyfrannu at lunio polisïau'r Llywodraeth. Mae gweld cydweithwyr DSIT ac academyddion sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yn yr un ystafell yn ein hatgoffa'n bwerus am yr hyn y gall yr adran ei gyflawni pan fydd yn tynnu ar yr arbenigedd gorau sydd ar gael.”