Mae pump ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u henwi ymysg talent y dyfodol mwyaf addawol Cymru fel rhan o garfan Crwsibl Cymru 2025. (o’r chwith i’r dde Dr Yang Liu, Dr Laura Seymour, Dr Maria Cheshire-Allen, Dr Charlotte Jones a Dr Tom Avery.)
Mae pum ymchwilydd rhagorol o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2026, rhaglen arobryn ar gyfer datblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Bob blwyddyn, dewisir 30 o ymchwilwyr ledled y wlad i gyfranogi mewn cyfres o labordai sgiliau preswyl dwys, sydd â'r nod o wella effaith ymchwil, meithrin cydweithredu rhyngddisgyblaethol a meithrin gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy’n rhan o raglen eleni'n amlygu rhagoriaeth academaidd ac arloesedd ar draws disgyblaethau amrywiol. Yr ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yw:
- Dr Maria Cheshire-Allen, Uwch-gymrawd Ymchwil ac Uwch-swyddog Ymchwil mewn gofal cymdeithasol sydd wedi ennill dau ddyfarniad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar yr un pryd, Cymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol a Grant Datblygu. Mae ei hymchwil yn arbenigo mewn gofalwyr di-dâl, pobl hŷn a chyfiawnder cymdeithasol;
- Dr Laura Seymour, Cymrawd Datblygu Gyrfaoedd Ymddiriedolaeth Wellcome ac Uwch-ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sut mae pobl niwrowahanol yn ymgysylltu â llenyddiaeth, a sut gall llenyddiaeth gefnogi ein lles a'n dealltwriaeth ohonon ni ein hunain;
- Dr Charlotte Jones, darlithydd mewn cymdeithaseg y mae ei hymchwil wrth groestoriad rhywedd, rhywioldeb, anabledd a meddygaeth. Mae ei gwaith presennol yn archwilio heriau ymchwil wedi'i gwleidyddoli sy'n cyfathrebu â'r cyhoedd, a'r cymorth sydd ar gael i academyddion sy'n wynebu adlach negyddol i'w gwaith;
- Dr Tom Avery, Swyddog Ymchwil ar gyfer Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol sy'n gweithio ledled de-orllewin Cymru i ddatblygu cydweithrediadau ymchwil ystyrlon yn y lleoedd rhwng y gymuned, polisi a'r byd academaidd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol, sy'n gysylltiedig â diddordeb craidd mewn hyrwyddo llais y gymuned mewn llywodraethiant lleol; a,
- Dr Yang Liu, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch, technolegau sy’n gwella preifatrwydd a deallusrwydd artiffisial dibynadwy. Mae'n archwilio sut gellir datblygu systemau Deallusrwydd Artiffisial diogel a dibynadwy gan ganolbwyntio'n benodol ar ddiogelu preifatrwydd, cadernid a defnyddio systemau awtonomaidd a chysylltiedig yn y byd go iawn.
Meddai'r Athro Siwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil, Arloesi a Mentergarwch), “Rydyn ni'n hynod falch o weld bod pump o'n hymchwilwyr wedi cael eu dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu eu doniau rhagorol, eu huchelgais a'u hysbryd cydweithredol, ynghyd â'u potensial i fod yn arweinwyr yn y dyfodol a fydd yn cyflwyno effaith ystyrlon dros Gymru a'r tu hwnt.”
Mae Crwsibl Cymru’n fenter ar y cyd a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (Medr).