Llun: Pexels
Mae astudiaeth newydd wedi ymchwilio i sut yn union mae mamau'n dylanwadu ar faint pen eu plentyn – ac, o ganlyniad i hynny, maint ymennydd ac IQ y plentyn yn y dyfodol – yn ystod tri mis cyntaf y beichiogrwydd.
Mae'r dystiolaeth am hyn yn seiliedig ar astudiaethau anuniongyrchol o oestrogen cynenedigol fel y'i mesurwyd gan ddefnyddio cymhareb digidau - sef y berthynas rhwng hyd y mynegfys a'r bys modrwy, a adnabyddir fel y gymhareb 2D:4D. Mae gan fabanod newydd-anedig sydd wedi profi lefel uchel o oestrogen o'i chymharu â lefel y testosteron fynegfysedd hir (2D) o'u cymharu â'u bysedd modrwy (4D) ynghyd â chylchedd pen mawr.
Nawr, mae cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Feddygaeth Lodz wedi rhoi'r ddamcaniaeth hon ar brawf drwy gysylltu crynodiadau hormonau rhywiol cynnar yng ngwaed y fam â chylchedd pen ei baban newydd-anedig.
Mae eu canfyddiadau wedi cael eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn, Early Human Development.
Dywedodd arbenigwr yn y gymhareb digidau, yr Athro John Manning o dîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM) Prifysgol Abertawe, fod yr astudiaeth yn dangos bod cysylltiad cadarnhaol rhwng oestrogen cynenedigol â chylchedd pen y plentyn newydd-anedig.
Mewn sampl o 47 o barau mam a phlentyn, gwnaeth y tîm ddarganfod bod lefelau oestrogen y fam rhwng y 6ed wythnos a'r 8fed wythnos yn ystod beichiogrwydd wedi rhagfynegi cylchedd pen y baban adeg ei eni a bod y dylanwad hwn yn gryfach i fechgyn o'u cymharu â merched.
Mae'r ymchwilwyr yn dweud bod hyn yn bwysig i'n dealltwriaeth o esblygiad dynol oherwydd y gwelir cynnydd ym maint yr ymennydd ochr yn ochr ag oestrogeneiddio'r corff - sef yr hyn a elwir yn ddamcaniaeth yr epa wedi’i oestrogeneiddio, sy'n ceisio esbonio sut datblygodd bodau dynol cynnar ymenyddiau mor fawr.
Dywedodd yr Athro Manning, “Mae lefelau uchel o oestrogen cynenedigol mewn babanod gwrywaidd yn gysylltiedig â phroblemau'r galon a chyfrifau sberm isel yn ddiweddarach mewn bywyd. Fodd bynnag, gall cynnydd ym maint yr ymennydd wrthbwyso’r problemau ffitrwydd hyn. Felly, mae'n bosib bod cysylltiad anochel rhwng yr ysgogiad esblygiadol am ymenyddiau mwy mewn bodau dynol a gostyngiadau mewn iechyd a ffrwythlondeb gwrywaidd.”
Mae ymchwil flaenorol yr Athro Manning wedi ymchwilio i sut gall y gymhareb digidau ddarparu gwybodaeth werthfawr yn ymwneud ag yfed alcohol, canlyniadau ar ôl dal Covid-19, yn ogystal â defnydd ocsigen mewn pêl-droedwyr.
Darllenwch ragor am yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol