Aelodau o dîm Ystadau a Gwasanaethau Campws Prifysgol Abertawe gyda'r Faner Werdd.
Mae gwaith caled staff tiroedd Prifysgol Abertawe i gynnal eu mannau gwyrdd arobryn wedi cael ei gydnabod unwaith eto eleni.
Bellach, bydd y Brifysgol yn hedfan y Faner Werdd uchel ei bri ar ei champysau am y nawfed flwyddyn yn olynol.
Mae record o 330 o barciau a mannau gwyrdd ar draws Cymru wedi cael eu hanrhydeddu eleni ac mae'r Brifysgol ymysg y 93 hynny sydd wedi llwyddo i sicrhau statws Gwobr y Faner Werdd. Roedd hefyd yn un o’r 14 i gael y Dyfarniad Safle Treftadaeth Werdd atodol, wedi'i gefnogi gan Cadw, am arddangos ymrwymiad i gadw a hyrwyddo ei hanes unigryw.
Nododd beirniaid a oedd wedi ymweld â Champws Parc Singleton a Champws y Bae fod tiroedd y Brifysgol yn ddiogel, wedi'u cadw'n dda ac yn lan, a hefyd yn fannau croesawgar.
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu: "Mae ennill y dyfarniad hwn eto yn golygu llawer i bawb yma ym Mhrifysgol Abertawe.
"Mae'r mannau gwyrdd hardd hyn wrth wraidd yr hyn sy'n gwneud ein campysau mor unigryw. Mae arbenigedd ein tîm Ystadau a Gwasanaethau Campws talentog sy'n rheoli ac yn datblygu'r mannau hyn yn cael ei werthfawrogi gan gydweithwyr, myfyrwyr a'r gymuned ehangach y mae croeso iddynt eu mwynhau.
"Mae'r ymrwymiad hwn i sicrhau bod ein tiroedd yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy a chydwybodol yn cael ei werthfawrogi ac mae wrth wraidd yr ymdeimlad o falchder."
Mae'r gwobrau, a gynhelir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn cael eu cydnabod mewn mwy na 20 o wledydd ac yn gwobrwyo'r parciau a'r mannau gwyrdd gorau yn unig.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru'n Daclus, Owen Derbyshire: "O brif barciau a choedwigoedd ffyniannus i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos flwyddyn ar ôl blwyddyn ei bod ag ymrwymiad dirwyo i feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau.
"Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru a hoffem ddiolch i'r holl staff a'r gwirfoddolwyr sy'n chwarae rhan i sicrhau bod y mannau arbennig hyn yn ffynnu ac y gall pawb eu mwynhau."
Mae'r anrhydedd ddiweddaraf hon yn dilyn Campws Parc Singleton y Brifysgol yn cael ei enwi ymysg y 10 safle Baner Werdd orau yn y DU, gan ennill gwobr Dewis y Bobl arobryn ar ôl i'r cyhoedd gyflwyno dros 36,000 o bleidleisiau am eu hoff fannau gwyrdd.
Gweld rhestr lawn o enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni