Injan Pearl 15 wedi'i haddasu. Cydnabyddiaeth: © Rolls-Royce plc 2026 • cedwir pob hawl.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n dathlu eu rôl mewn carreg filltir fawr ym maes hedfanaeth, yn dilyn cwblhau rhaglen ryngwladol pedair blynedd o hyd yn llwyddiannus dan arweiniad Rolls-Royce ac EasyJet i brofi hydrogen fel tanwydd awyrennau dichonol.
Mae'r rhaglen wedi arwain at gyflawniad unigryw yn fyd-eang: injan awyren fodern sy'n defnyddio 100% hydrogen i bweru esgyniad, gan brofi potensial hydrogen i chwarae rôl drawsnewidiol mewn hedfanaeth ddi-garbon yn y dyfodol.
Mae Prifysgol Abertawe wedi darparu data hanfodol am ddeunyddiau i gefnogi datblygiad tyrbinau nwy a bwerir gan hydrogen fel partner craidd yn y fenter HYEST (Technolegau System Injan Hydrogen) a ariennir gan UKRI .
Fel rhan o'r prosiect, creodd Sefydliad Deunyddiau Strwythurol Abertawe (ISM) gyfleusterau profi mecanyddol newydd o safon fyd-eang mewn dau faes nad oedd y grŵp ymchwil wedi'u harchwilio'n flaenorol:
- Tymereddau cryogenig
- Amgylcheddau hydrogen pwysedd uchel
Cafodd y cyfleusterau hyn eu datblygu drwy gydweithrediad agos rhwng yr ISM a Sefydliad Dur a Metelau'r Brifysgol (SAMI).
Mae'r cyfleusterau newydd yn galluogi ymchwilwyr i efelychu’r amodau eithafol y mae’n rhaid i injan a bwerir gan hydrogen eu gwrthsefyll, gan greu data sy'n hanfodol ar gyfer dylunio injan ddiogel ac effeithlon.
Meddai'r Athro Mark Whittaker, Cyfarwyddwr y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol a Chanolfan Technoleg Prifysgol Rolls-Royce mewn Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r ISM yn ganolfan ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n arbenigo ym maes profi mecanyddol mewn amgylcheddau tymheredd uchel. Daeth SAMI ag arbenigedd cyflenwol mewn weithio gyda nwyon diwydiannol heriol megis hydrogen, gan ein galluogi i greu cyfleusterau gwirioneddol unigryw. Mae’r rhain wedi cynhyrchu data helaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu tyrbinau nwy ar sail hydrogen.
"Mae ein perthynas agos â Rolls-Royce wedi creu amgylchedd lle gall nodweddu mecanyddol ar raddfa labordy lywio’n uniongyrchol sut mae deunyddiau'n ymddwyn mewn injan a bwerir gan hydrogen."
Mae cyfraniad tîm Abertawe'n rhan hanfodol o ymdrech ehangach y diwydiant i gyflymu'r trawsnewidiad i dechnolegau hedfanaeth di-garbon.
Meddai Louise Gale, Arbenigwr Deunyddiau yn Rolls-Royce: "Mae'r rhaglen brofi yn NASA Stennis yn cynrychioli ffrwyth rhaglen gynhwysfawr, fyd-eang a oedd â’r nod o brofi y gall hydrogen ddarparu pŵer yn ddiogel ac yn effeithlon ar gyfer injans awyrofod. Roedd rhaglen Rolls-Royce yn dilyn ymagwedd gynyddrannol, wedi'i llywio gan dechnoleg i brofi'r technolegau sylfaenol, gan gynnwys y deunyddiau.
"Roedd Abertawe'n ddewis amlwg fel partner ar gyfer y rhaglen HYEST gan adeiladu ar ein perthynas gref a ddatblygwyd trwy sawl cydweithrediad llwyddiannus blaenorol ar brofi a nodweddu deunyddiau. I ddatblygu injan a bwerir gan hydrogen, mae angen galluoedd profi deunyddiau newydd i ddilysu ymddygiad deunyddiau mewn amgylcheddau hydrogen. Mae'r galluoedd profi a ddatblygwyd gan Abertawe wedi'n galluogi i greu data allweddol am ddeunyddiau i gynorthwyo wrth ddylunio cydrannau ac asesiadau diogelwch."
Darllenwch ragor am yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol.