Cydnabyddiaeth: Koldunov | Shutterstock.
Mae adolygiad mawr newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe wedi amlygu tystiolaeth gynyddol sy'n dangos y gall deiet ym mlynyddoedd cynnar bywyd lywio pa mor dda mae'r ymennydd yn datblygu a gellir gweld effeithiau o hyd yn ystod llencyndod.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Advances in Nutrition, yn dod â chanfyddiadau o 73 astudiaeth ynghyd — gan gynnwys 48 o dreialon dan reolaeth a 25 o astudiaethau arfaethedig — i ymchwilio i sut mae deiet yn effeithio ar berfformiad gwybyddol a chanlyniadau academaidd ymhlith pobl ifanc rhwng 8 oed ac 19 oed.
Mae'r adolygiad, sydd wedi'i gefnogi gan Bwyllgor Iechyd Gwybyddol IAFNS, wedi canfod y gall patrymau deietegol nad ydynt yn iach yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd, yn enwedig yn ystod babandod, gael canlyniadau hirdymor ar ddeallusrwydd pobl ifanc.
Dywedodd yr Athro Hayley Young, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a phrif awdur yr astudiaeth, “Yr hyn sydd fwyaf amlwg yw bod sylfeini iechyd gwybyddol yn cael eu gosod yn gynnar iawn, yn ôl pob golwg. Roedd deiet gwaeth yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd yn gysylltiedig â deallusrwydd is flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod llencyndod, hyd yn oed ar ôl ystyried llawer o ddylanwadau eraill. Mae'r darlun yn ystod llencyndod ei hun yn fwy cymysg: mae rhai ymyriadau'n ymddangos yn addawol, ond mae'r dystiolaeth yn bell o fod yn bendant. Dyma’n union pam mae angen astudiaethau sydd wedi'u llunio'n well arnon ni, fel y gallwn ni ganfod a yw llencyndod wir yn ail gyfle i ni gefnogi'r ymennydd sy'n datblygu drwy faeth, yn hytrach na chymryd hwn yn ganiataol.”
Ar ôl babandod, mae llencyndod yn cynrychioli ail gyfnod allweddol niwroplastigedd, sydd wedi'i nodweddu gan newidiadau strwythurol a gweithredol eang sy'n cael eu harwain yn rhannol gan newidiadau hormonaidd ac endocrin yn ystod y glasoed.
I adlewyrchu sut mae'r ymennydd yn datblygu dros amser, mae'r adolygiad yn defnyddio astudiaethau hydredol sy'n archwilio cysylltiadau rhwng deiet yn ystod y blynyddoedd cynnar a pherfformiad gwybyddol ac academaidd yn ddiweddarach. Mae'r ymagwedd rhychwant oes hon yn cydnabod bod galluoedd yn ddiweddarach yn adeiladu ar gerrig milltir datblygiadol gynharach, gan alluogi'r tîm i ymchwilio i sut gall maeth yn ystod y blynyddoedd cynnar ddylanwadu ar ganlyniadau flynyddoedd yn ddiweddarach.
Gwnaeth yr ymchwilwyr asesu tystiolaeth hirdymor o amrywiaeth eang o faetholion a chydrannau deietegol, gan gynnwys haearn, ïodin, colin, fitamin D, polyffenolau, asidau brasterog, grawn ac ymyriadau aml-faetholyn.
Er gall canfyddiadau ar draws y llenyddiaeth ymddangos yn anghyson, mae'r awduron yn rhybuddio yn erbyn dehongli hwn fel tystiolaeth bod ychydig iawn o ddylanwad gan ddeiet. Yn hytrach, maen nhw'n dadlau bod effaith maeth yn dibynnu ar sawl ffactor — gan gynnwys amseriad cyflwyno cydrannau maeth yn ystod datblygiad, nodweddion y boblogaeth sy'n cael eu hastudio, hyd a math yr ymyriad a'r galluoedd gwybyddol penodol sy'n cael eu mesur.
I ddatblygu ymchwil yn y maes hwn sy'n dod i'r amlwg, mae'r tîm yn cynnig saith egwyddor arweiniol ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol:
- Mabwysiadu safbwynt rhychwant oes
- Symud y tu hwnt i arunigo maetholion
- Defnyddio biofarcwyr sy'n ddilys yn fiolegol
- Cynnwys dadansoddiadau sy'n benodol i'r glasoed a rhyw
- Safoni mesurau canlyniadau
- Blaenoriaethu cyd-destun a nodweddion y boblogaeth
- Rheoli ar gyfer elfennau allweddol dryslyd.
Mae'r awduron wedi dod i'r casgliad bod angen rhagor o ymchwil ansawdd uchel i ganfod a yw llencyndod yn cynrychioli cyfle unigryw i gefnogi datblygiad gwybyddol drwy ymyriadau maethol.