Dau lun: creadur robot lleferog bach wrth flwch cardfwrdd a phen a shouldrau menyw.

Gallai robot anwes rhyngweithiol o'r enw Purrble wella symptomau gorbryder ac iselder mewn pobl ifanc LHDTC+.

Mae ymchwilwyr wedi canfod bod pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed a fu’n rhyngweithio â’r robot yn llawer mwy tebygol o weld gwelliannau mewn symptomau gorbryder ac iselder ac yn eu galluoedd i reoleiddio eu hemosiynau. Cymharwyd y canlyniadau hyn â grŵp a oedd wedi llunio cynllun diogelwch yn unig - techneg a ddefnyddir yn gyffredin gan ymarferwyr iechyd meddwl i helpu i ymdopi â'r awydd i hunan-niweidio.

Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd dros 13 wythnos ymhlith mwy na 150 o bobl yn eu harddegau a oedd yn profi meddyliau am hunanladdiad, ac maen nhw newydd gael eu cyhoeddi yn Nature Medicine.

Bu'r prif awdur, Dr A Jess Williams o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn cydweithio â chydweithwyr o Goleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Nottingham ar yr astudiaeth fel rhan o’r rhaglen Ieuenctid Digidol.

Mae Purrble, a gafodd ei ddylunio ar y cyd â phlant, yn efelychu curiad calon cyflym drwy dirgryniadau, gan annog ei ddefnyddiwr i’w anwesu a’i fwytho er mwyn ei dawelu. Mae’n newid o wichiau bach i ddechrau canu grwndi’n raddol, gan helpu i dynnu sylw’r person ifanc o emosiynau heriol a’i dawelu ei hun.

Dros amser, dangoswyd bod Purrble yn helpu defnyddwyr i reoleiddio eu hemosiynau eu hunain yn well. Drwy ddefnyddio’r sgìl hwn, mae’r ddyfais yn gweithredu fel triniaeth drawsddiagnostig – gan dargedu’r anallu i reoleiddio emosiynau sydd wrth wraidd sawl diagnosis o iechyd meddwl gwael.

Yn y DU, amcangyfrifir bod gan 65.3 y cant o bobl ifanc LHDTC+ hanes o hunan-niweidio. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae ymchwil Dr Williams wedi canolbwyntio ar ddeall hunan-niwed ymhlith pobl ifanc LHDTC+, â diddordeb penodol mewn dylunio, gwerthuso a gweithredu ymyriadau i leihau risg a gwella canlyniadau iechyd meddwl.

Bu’n arwain yr hap-dreial dan reolaeth a archwiliodd effeithiau Purrble ymhlith pobl ifanc LHDTC+ rhwng 16 a 25 oed â phrofiadau o hunan-niweidio, gan eu cymharu â’r driniaeth arferol (cynlluniau diogelwch). Darganfuwyd bod mynediad at Purrble yn gwella’r gallu i reoleiddio emosiynau’n sylweddol, gan leihau symptomau gorbryder ac iselder.

Meddai Dr Williams: “Mae pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol, gwiar neu’r rhai hynny sy’n cwestiynu eu hunaniaeth (LHDTC+) yn wynebu cyfraddau anghymesur o uchel o ran canlyniadau iechyd meddwl gwael, gan gynnwys iselder a gorbryder, hunan-niweidio a hunanladdiad.

“Mae cysylltiad cryf rhwng anhawster rheoleiddio’r emosiynau a datblygiad amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl, gan gynnwys meddyliau ac ymddygiadau hunan-niweidio.

“Er gwaethaf y diffyg tystiolaeth ystadegol am dueddiadau hunan-niweidio, mae’r canfyddiadau hyn yn gyffrous iawn. Nid yw Purrible yn gofyn am hyfforddiant penodol na chyswllt â therapydd a gellir ei ddefnyddio pryd bynnag a sut bynnag mae’r person ifanc eisiau ei ddefnyddio – sy’n golygu ei fod yn ymatebol iawn i anghenion y person ifanc.”

Mae’r ymchwilwyr yn credu bellach y gallai’r driniaeth gartref effeithiol hon gael ei datblygu ar raddfa ehangach i’w chynnig ochr yn ochr â therapïau iechyd meddwl mwy traddodiadol er mwyn cyrraedd rhagor o blant mewn perygl.

 

Rhannu'r stori