Llun: Pixabay
Nid yw bron dau draean - 66% - o bobl sy'n meddu ar drwydded yrru yn y DU yn deall bod cerbydau SUV yn fwy peryglus i gerddwyr a beicwyr na cheir bach, yn ôl ymchwil newydd.
Ac mae'r tîm o Brifysgol Abertawe sy'n cynnal yr astudiaeth hon yn dweud bod y ganran hon yn cynyddu i 86% ymhlith pobl sy'n berchen ar gerbydau SUV ar hyn o bryd.
Hyd yn oed ar ôl cael gwybod bod cerbydau SUV yn arwain at fwy o risgiau i ddefnyddwyr y ffyrdd sy'n agored i niwed, dim ond 3.6% o'r bobl a oedd yn bwriadu prynu neu brydlesu SUV fel eu car nesaf ddywedodd y bydden nhw'n newid eu meddwl.
O ganlyniad i'r ymchwil hon, mae academyddion o'r Ysgol Seicoleg yn awyddus i weld cyfyngiadau llymach yn cael eu rhoi ar waith megis trethi uwch neu gyfyngiadau dylunio ar gerbydau SUV a cheir mwy o faint.
Gan weithio gyda grŵp ymgyrchu Adfree Cities, gwnaeth yr ymchwilwyr ddadansoddi canlyniadau arolwg YouGov o 1,838 o oedolion yn y DU a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2026. Hefyd, dangoswyd lluniau marchnata wedi'u hefelychu o gerbydau SUV i'r ymatebwyr, naill ai gyda neu heb labeli prototeip diogelwch yn amlinellu'r peryglon y mae ceir mwy o faint a thrymach yn eu creu i gerddwyr a beicwyr.
Dywedodd Jimin Choi, cyd-awdur a myfyriwr PhD: "Mae ein hastudiaeth yn amlygu dallbwyntiau mewn sgyrsiau presennol am ddiogelwch ar y ffyrdd. Dangosodd gyrwyr ym Mhrydain - a gyrwyr cerbydau SUV yn benodol - ddiffyg ymwybyddiaeth o'r peryglon hysbys y mae cerbydau SUV yn eu creu i gerddwyr a beicwyr. Yn fwy na hynny, ni wnaeth codi ymwybyddiaeth lwyddo i'w perswadio i ddewis car llai o faint yn y dyfodol. Mae angen i lunwyr polisi ystyried y ffaith efallai bod pryderon am ddiogelwch pobl eraill dim ond yn chwarae rhan ddibwys wrth i bobl benderfynu pa gar i'w brynu."
Mae gwerthiant cerbydau SUV a cheir mawr eraill megis tryciau wedi bod yn cynyddu'n gyflym mewn rhannau helaeth o'r byd, ac mae dau o bob tri char a werthir yn y DU erbyn hyn yn gerbyd SUV.
Yn ogystal ag achosi tagfeydd a gwaethygu'r argyfwng ceubyllau, mae'r nifer cynyddol o gerbydau SUV yn cynyddu perygl ar y ffyrdd. Dangosodd meta-ddadansoddiad diweddar fod cerddwyr a beicwyr 44% yn fwy tebygol o gael eu lladd pe baent yn cael eu taro gan gerbyd SUV o gymharu â char bach, ac mae'r ganran hon yn cynyddu i 82% ar gyfer cerddwyr a beicwyr sy'n blant.
Mae ymgyrchwyr wedi galw ar y llywodraeth i wrth-droi'r tuedd tuag at gerbydau sy'n cynyddu o ran maint a thrymder. Mae mesurau megis ffïoedd parcio ar sail pwysau, trethi uwch a chyfyngiadau hysbysebu i gyd wedi cael eu hargymell.
Ychwanegodd yr Athro Ian Walker, seicolegydd amgylcheddol: "Mae prynu pa bynnag gerbyd rydyn ni ei eisiau, a'i yrru i le bynnag, pryd bynnag rydyn ni'n dymuno gwneud hynny heb orfod meddwl am y goblygiadau i bobl eraill, wedi cael ei normaleiddio ac wedi cael ei ymgorffori ledled ein cymdeithas ar draws cyfnod o ddegawdau.
O ganlyniad, nid yw'n syndod nad yw corff cynyddol o dystiolaeth sy'n nodi bod gofyn neu annog pobl i yrru'n wahanol yn gweithio, ac y bydd angen ymyriadau cryfach os yw llywodraethau eisiau cymryd y mater o ddifrif. Mae hyn, bron yn sicr, yn cynnwys cael sgyrsiau mwy gonest am sut y mae gyrru, waeth pa mor ddefnyddiol ydyw i'r person sydd yn gyrru, yn arwain at y posibilrwydd o achosi niwed i bobl eraill.
"Nes i ni gydnabod hyn, a cheisio lleihau'r niwed hwnnw, nid yw'n glir sut rydyn ni'n mynd i gymryd y camau sydd eu hangen i greu gwlad mwy diogel ac iach."
Mae treth cofrestru cerbyd yn seiliedig ar bwysau, gyda'r gyfradd uchaf yn €30 fesul kg, ar waith yn Ffrainc ers 2022. Mae hyn yn cyfateb i fwy na €20,000 ar gyfer cerbyd SUV ystod canol arferol. Ym mis Hydref 2025, Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i gymeradwyo cynlluniau ar gyfer ffïoedd parcio uwch ar gyfer ceir trymach. Mae dinasoedd eraill nawr yn archwilio polisïau tebyg er mwyn lleihau'r defnydd o gerbydau SUV.
Dywedodd James Ward, Cyd-gyfarwyddwr Adfree Cities: "Mae marchnata a hysbysebu cerbydau SUV yn bwydo rhithdyb ymhlith y cyhoedd bod y rhain yn geir diogel ar gyfer teuluoedd. Mae'n hawdd mabwysiadu'r syniad bod dewis car mawr yn hytrach na char bach yn benderfyniad diniwed ar sail dewis personol, sydd yr un peth a dewis car gwyn yn hytrach na char glas. Tra bod cerbydau SUV yn bodoli, colli bywydau yw'r gost am y poblogrwydd hwnnw. Mae angen i lunwyr polisi arwain y ffordd a gweithredu er budd diogelwch y cyhoedd."
Darllenwch y papur ymchwil yn llawn