Yr Athro Ann John

Mae arbenigwr gwyddor data iechyd meddwl Prifysgol Abertawe wedi cael ei hethol i Academi'r Gwyddorau Meddygol i gydnabod ei chyfraniad rhagorol at y gwyddorau meddygol.

Mae'r Athro Ann John o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ymhlith 60 o wyddonwyr biofeddygol ac iechyd rhagorol sydd wedi cael eu hethol am Gymrodoriaeth o'r Academi am ei chyfraniad rhagorol at wella iechyd a datblygu gwybodaeth wyddonol.

Mae'r Athro John yn arbenigwr â chydnabyddiaeth ryngwladol mewn atal hunanladdiad, ymchwil i hunan-niweidio ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Hi yw Prif Ymchwilydd a Chyd-gyfarwyddwr DATAMIND, sef Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd Meddwl, a Chyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil i Hunan-niweidio, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.

Mae ei hymchwil wedi gwella dealltwriaeth o'r achosion a'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niweidio, gan herio rhagdybiaethau hirsefydlog ac ehangu'r ffocws y tu hwnt i seiciatreg arbenigol i leoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae'r gwaith hwn wedi helpu i lywio polisi cenedlaethol, dylanwadu ar ymarfer rheng flaen a gwella'r ffordd mae'r cyfryngau'n adrodd am hunanladdiad.

Drwy roi gwybod i'r cyhoedd a sefydliadau ar draws meysydd iechyd ac addysg am ganfyddiadau'r ymchwil, mae'r Athro John wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma ynghylch iechyd meddwl a hunan-niweidio. Drwy ei gwaith mewn ymchwil, polisi ac ymgysylltu â'r cyhoedd, mae hi wedi dangos sut gall arbenigedd academaidd ysgogi newid ystyrlon a chyflawni buddion hirdymor ar gyfer y gymdeithas.

Meddai'r Athro John, “Mae'n fraint ac yn anrhydedd gennyf fod yn Gymrawd o Academi'r Gwyddorau Meddygol. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad a chydweithrediad yr ymchwilwyr, y clinigwyr, y llunwyr polisi a'r arbenigwyr drwy brofiad byw niferus rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â nhw drwy gydol fy ngyrfa.

“Rwy'n arbennig o falch o'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud gan ddefnyddio gwyddor data i wella ymchwil i iechyd meddwl ac atal hunanladdiad a sicrhau bod y dystiolaeth yn arwain at newid ystyrlon ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae cydweithredu, bod yn agored a gweithio mewn partneriaeth â'r cyhoedd bob amser wedi bod yn rhan ganolog o'm gwaith ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi arloesi a thegwch mewn ymchwil iechyd.”

Meddai'r Athro Andrew Morris CBE FRSE PMedSci, Llywydd Academi'r Gwyddorau Meddygol, “Mae'n fraint gennym groesawu'r garfan newydd ragorol hon i Gymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Meddygol. Mae pob un o'n Cymrodorion newydd wedi cael ei gydnabod gan ei gymheiriaid am gyflawniad rhagorol oherwydd y dylanwad y mae ei waith wedi'i gael ar ddatblygu'r gwyddorau meddygol a gwella iechyd.

“Mae amrywiaeth y disgyblaethau sydd wedi'u cynrychioli eleni'n adlewyrchu cyfoeth y gwyddorau meddygol modern a gwerth cydweithredu ar draws meysydd. Ar adeg pan fo heriau iechyd yn fwyfwy cymhleth, mae Cymrodoriaeth yr Academi'n darparu platfform annibynnol dibynadwy i arweinwyr yn y gwyddorau weithio gyda'i gilydd, hyrwyddo rhagoriaeth a helpu i sicrhau bod ymchwil yn cyflawni buddion go iawn i bobl a chymunedau.”

Caiff y Cymrodorion newydd eu derbyn yn ffurfiol i'r Academi mewn seremoni a gynhelir ddydd Mawrth 30 Mehefin.

Rhannu'r stori