Yr Athro Peter Stead
Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth ddiweddar yr Athro Peter Stead; cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, cyn-aelod o staff, Cymrawd er Anrhydedd a sylfaenydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.
Mae cyflawniadau Peter yn rhychwantu ei yrfa fel hanesydd, awdur a golygydd ac yn adlewyrchu cryfder ei ymrwymiad a'i angerdd i'r celfyddydau yn ein Prifysgol, ein rhanbarth a'n cenedl. Yma ym Mhrifysgol Abertawe, roeddem yn hynod ffodus o gael budd yn sgîl cefnogaeth ragorol Peter i'n sefydliad; yn gyntaf fel myfyriwr israddedig, yna fel aelod hirsefydlog o staff, ac yn ddiweddarach fel Cymrawd er Anrhydedd.
Efallai bod angerdd ac ymrwymiad Peter wedi eu hymgorffori orau gan ei ymdrechion i sefydlu Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2006. Ers hynny, mae enw da ac arwyddocâd y Wobr ei hun, a'i mentrau ategol cysylltiedig fel DylanED, wedi ffynnu. Nawr, wrth i ni agosáu at ugeinfed flwyddyn y Wobr, mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau gwirioneddol calendr ein Prifysgol ni yn ogystal â'r calendr llenyddol ledled y byd. Yn bwysig, mae gwaith gwych DylanED i gefnogi awduron ifanc talentog Abertawe a Chymru yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn natblygiad diwylliannol a chyfoeth ein rhanbarth a'n cenedl.
Bydd llawer ohonom yn gweld eisiau Peter yn fawr iawn, yng nghymuned ein Prifysgol ac ar draws y sector diwylliannol yng Nghymru. Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant â gwraig Peter, Elizabeth, ac i'w deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hon. Cynhelir gwasanaeth angladd i Peter, y mae croeso i bawb, am 11.00am ddydd Mercher 22 Ebrill 2026, yn Eglwys y Tabernacl, Heol Newton, Y Mwmbwls, SA3 4AR. Bydd lluniaeth ar ôl y gwasanaeth yng Nghapel Castleton, Heol Newton, y Mwmbwls, SA3 4BD.
Mae etifeddiaeth Peter yn sylweddol, ac mae ein Prifysgol wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn parhau am flynyddoedd i ddod. Rydym yn gobeithio ei anrhydeddu yn ystod seremoni Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ar 14 Mai 2026.