Mae cerflun coffa parhaol wedi'i ddadorchuddio ar Gampws Parc Singleton i gydnabod cyfraniadau amhrisiadwy unigolion sy'n rhoi eu cyrff i addysg ac ymchwil feddygol.
Mae eu haelioni'n darparu adnodd eithriadol ar gyfer dysgu ymarferol, gan roi i fyfyrwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol ddealltwriaeth ddyfnach o anatomeg ddynol a chymhlethdodau clefydau.
Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud defnydd helaeth o feinweoedd dynol a roddwyd at ddibenion addysgu anatomeg i fyfyrwyr meddygol yn ogystal ag ar draws amrywiaeth eang o raglenni gan gynnwys Niwrowyddoniaeth, Gwyddor Feddygol Gymhwysol, Seicoleg, Fferylliaeth Feddygol ac Osteopatheg.
Daw'r cerflun hwn yn sgîl menter tair blynedd o hyd, Prosiect Coffa Rhoddwyr Cyrff, dan arweiniad Dr Marcela Bezdickova, Athro Cysylltiol mewn Anatomeg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Cefnogwyd y prosiect gan fyfyrwyr meddygol a lansiodd ymgyrch codi ariannol bwrpasol i gefnogi creu'r deyrnged barhaol hon.
Meddai Dr Bezdickova: "Mae rhoddwyr cyrff yn rhoi i'n myfyrwyr gyflwyniad heb ei ail i anatomeg ddynol go iawn - y deunydd gwirioneddol a fydd yn sail i'w gwaith yn eu proffesiynau yn y dyfodol. Cyfeirir atynt yn aml fel eu 'cleifion cyntaf' neu eu 'hathrawon mud' ac maent yn parhau i fod y safon aur ar gyfer addysg anatomegol, gan gynnig lefel o fanylder ac unigoliaeth nad oes modd i fodelau synthetig ei hatgynhyrchu.
"Mae ein myfyrwyr yn elwa'n fawr o'r haelioni hwn ac felly roedden ni'n teimlo'n gryf y dylai fod ffordd barhaol o goffáu'r rhoddwyr. Rydym yn gobeithio y bydd y cerflun coffa trawiadol hwn yn anrhydeddu eu rhodd nodedig ac yn cynnig lle pwrpasol ar gyfer myfyrio ar yr effaith ddofn y maent wedi'i chael ar genedlaethau o weithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol."
Mae'r cerflun chwe throedfedd o uchder yn sefyll ar sylfaen carreg Pennant o flaen Adeilad Grove sy'n gartref i labordai anatomeg y Brifysgol. Cafodd ei greu gan y cerflunydd blaenllaw o Sir Gaerfyrddin, Lee Odishow, a gydnabyddir yn eang am ddylunio Cerflun Coffa'r Ddraig Goch yn Fflandrys.
Mae'r dyluniad yn seiliedig ar ruban dur di-staen sy'n cynrychioli'r rhoddwyr. Mae’r dolenni cyd-gysylltiedig o fewn y rhuban yn cynrychioli'r pen a'r galon, gan ffafrio arddull sy’n dynoli'r deyrnged yn hytrach na defnyddio cynrychiolaeth anatomegol lythrennol.
Wedi'i gastio gan ddefnyddio efydd a'i orffen mewn gwyrdd vert de gris traddodiadol, mae'r elinau sy'n dal y galon yn cynrychioli mawrfrydedd y rhoddwyr a diolchgarwch y myfyrwyr a'r ymchwilwyr. Yn nodweddiadol, mae'r cerflun yn cynnwys elinau benywaidd a gwrywaidd, gan herio'n fwriadol y gynrychiolaeth wrywaidd hanesyddol arferol mewn addysg feddygol.
Dywedodd Hope Vaughan-Hughes, myfyriwr ail flwyddyn ar y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion: "Mae dysgu a chael profiad gan ein rhoddwyr yn fraint sy'n aros gyda ni am byth. O'r diwedd mae'r cerflun hwn yn rhoi lle i ni ddiolch i'r bobl hynny a roddodd gymaint i'n haddysg cyn i ni hyd yn oed gwrdd â'n cleifion byw cyntaf."
Ychwanegodd Dr Bezdickova: "Ar ran ein Prosiect Coffa Rhoddwyr Corff, hoffwn estyn ein diolchgarwch diddiwedd i bawb a gyfrannodd at ein hymgyrch codi arian; o ganlyniad i'w haelioni, bellach mae gennym y lle parhaol hardd hwn ar gyfer myfyrio."