Dau ddyn ifanc yn sefyll gyda'i gilydd ger bron baner

Y Mentor Mwyaf Ysgogol enillydd Owen Davey gyda Musharaf Asghar.

Mae mentoriaid myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael eu cydnabod am y cymorth rhagorol y maen nhw wedi'i roi i ddisgyblion ysgolion.

Yng Ngwobrau Mentora Ymestyn yn Ehangach De Cymru eleni, enillodd cynrychiolwyr Abertawe'r holl wobrau i fentoriaid, gan guro cystadleuaeth o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Y mentoriaid a gafodd eu hanrhydeddu oedd:

  • Y Mentor Mwyaf Ysbrydoledig: Enillydd Serena Ketty
  • Y Mentor Mwyaf Ysgogol: Enillydd Owen Davey
  • Y Mentor Mwyaf Ysbrydoledig: Ail safle Casi Jones
  • Y Mentor Mwyaf Ysgogol: Ail safle Lucy Perry

Mae Ymestyn yn Ehangach yn gweithio gyda disgyblion, teuluoedd ac oedolion o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ogystal â chyda phobl ifanc a gofalwyr sydd wedi bod mewn gofal ar draws y rhanbarth. Mae'n cynnig ystod o weithgareddau dysgu a gwella cyrhaeddiad llawn ysbrydoliaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n creu llwybrau i addysg uwch.

Mae'r rhaglen fentora'n gweld myfyrwyr presennol y prifysgolion yn gweithio fel mentoriaid i gynnig cymorth unigol ar-lein i ddysgwyr rhwng 14 ac 19 oed. Mae pob un wedi'i baru'n benodol â dysgwr a gall gynnig cyngor ac arweiniad am fywyd wedi'r ysgol.

Mae'r menteion yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau astudio, dulliau adolygu ac ymchwilio i lwybrau gyrfa. Mae pynciau wythnosol y rhaglen yn cynnwys cyllid, sgiliau astudio a chyfweliadau a helpu parau o fentoriaid-menteion i ddatblygu sgiliau perthnasol.

Gwnaeth y beirniaid dynnu sylw arbennig at Serena am fynd gam ymhellach o ran ysgogi menteion gan ei disgrifio hi fel cymorth rhagorol i'w holl fenteion. Gwnaethant hefyd ganmol ymrwymiad a pharodrwydd Owen i gymryd rhan mewn cynifer o gyfleoedd ychwanegol â phosib.

Meddai Serena: "Mae bod yn rhan o raglen fentora wedi fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Bu'n wych gweld y camau cadarnhaol y maen nhw wedi'u cymryd tuag at eu dyfodol." 

Ychwanegodd Owen: "Roedd cael fy enwebu am y wobr yn anrhydedd, yn enwedig yn fy mlwyddyn gyntaf fel mentor. Roedd ennill yn anhygoel. Ni fyddai dim o hyn yn bosib heb dîm anhygoel Ymestyn yn Ehangach sy'n gweithio i wneud prosiectau'n bosib ac yn ein cefnogi ni gyda fforymau hyfforddi ac adborth.

“Gwneud yn siŵr bod pob mentai'n gorffen gyda mwy o hyder ynddo ei hun a gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael iddo fu fy ffocws ac mae'n wych gweld hyn yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi." 

Meddai Alice Davies, Arweinydd Ehangu Cyfranogiad ac Ymestyn yn Ehangach: "Mae'n wych gweld ein mentoriaid yn cael eu cydnabod yn y ffordd hon - mae eu hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc ar draws y rhanbarth. Ein harweinwyr myfyrwyr yw'r ased gorau sydd gennym.

"Mae rhywbeth pwerus iawn am glywed bod rhywun sy'n agos iawn at eich oedran eich hun, gyda phrofiadau a rennir, yn siarad yn onest am yr hyn yw bywyd mewn prifysgol.

"Maen nhw'n gweithio gyda phobl ifanc o ysgolion cynradd ymlaen i feithrin hyder ac ehangu dyheadau. Ar gyfer llawer o'r menteion hyn, y rhaglen fentora yw'r cam olaf ar daith a ddechreuodd flynyddoedd yn gynharach."

Y siaradwr gwadd yn y seremoni wobrwyo oedd Musharaf Asghar, a ddaeth i enwogrwydd ar ôl trechu ei atal dweud yn y sioe deledu, Educating Yorkshire.

Dysgwch fwy am Ymestyn yn Ehangach ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori