Cydnabyddiaeth: wavebreakmedia | Shutterstock.
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi nodi bod oedi sylweddol a rhwystrau wrth gael diagnosis yn effeithio ar gleifion rhewmatoleg yng Nghymru.
Gan gyfeirio at gyfweliadau â chleifion, data arolygon a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth i fyrddau iechyd yng Nghymru, mae'r ymchwil yn amlygu:
- Prinder meddygon arbenigol
Pan gyfwelwyd â chleifion sydd â lwpws, dywedon nhw nad oedd ganddynt fynediad at arbenigwyr lwpws yn eu hardaloedd, ac roedd ymatebion Rhyddid Gwybodaeth yn dangos mai dim ond un niwro-offthalmolegydd sydd gan y GIG yng Nghymru, gan gyfyngu mynediad at asesiadau ar gyfer symptomau gweledol neu niwrolegol ymhellach.
- Prinder profion diagnostig allweddol
Ni wnaeth unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru nodi ei fod yn darparu 'nailfold capillaroscopy' - offeryn diagnostig allweddol ar gyfer cyflyrau awtoimiwn megis sgleroderma.
- Rhestrau aros hir neu atgyfeiriadau y tu allan i'r dalgylch yn cael eu gwrthod
Yn unol â Pholisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw (y tu allan i'r dalgylch) GIG Cymru, rhaid i glinigwyr gyflwyno cais i'w bwrdd iechyd am ganiatâd i gyfeirio cleifion i rywle arall. Dangosodd yr astudiaeth fod gwneud penderfyniadau ar y ceisiadau hyn yn "anhrefnus ac yn annheg". Dywedodd un claf yn ei 50au sydd ag erythematosus lwpws systemig ei fod wedi gorfod aros am ddwy flynedd ar gyfer atgyfeiriad o Gymru i Loegr, proses a ddylai fod wedi cymryd mis yn ôl y claf.
- Oediadau diagnostig hir
Mae diffyg arbenigwyr yng Nghymru ac anawsterau wrth sicrhau atgyfeiriadau i fyrddau iechyd eraill neu i Loegr yn cyfrannu at oediadau diagnostig hir. Mewn sampl fach, dywedodd y cleifion o Gymru a gymerodd ran mewn arolwg eu bod wedi aros am oddeutu 11 mlynedd ar gyfartaledd rhwng y symptomau'n dechrau a chael diagnosis o lwpws neu glefydau rhewmatig systemig eraill, o’i gymharu â thua 7 mlynedd ar draws y DU.
Daw’r ymchwil i’r casgliad bod cleifion yng Nghymru yn wynebu heriau penodol o’u cymharu â chleifion yn Lloegr, er gwaethaf arbenigedd ardderchog rhewmotalegwyr y GIG yng Nghymru.
Dywedodd claf yn ei 30au sydd â lwpws: "Does dim arbenigwyr lwpws yn fy ardal i, ond mae fy ngheisiadau am atgyfeiriad i arbenigwyr yn y bwrdd iechyd cyfagos yn cael eu gwrthod dro ar ôl tro. Mae fy lwpws wedi gwaethygu."
Dywedodd claf yn ei 50au, a symudodd o Loegr i Gymru, ac sydd â chlefyd Sjögren: "...yn anffodus, rydw i wedi ei chael hi'n anodd weithiau i gael apwyntiadau rheolaidd - chwech mis yn Lloegr, blwyddyn yng Nghymru. Rydw i wir yn credu os nad oedd gen i ddiagnosis llawn pan symudais i Gymru, byddai wedi bod yn llawer mwy anodd cael diagnosis yma."
Dywedodd Rupert Harwood, ymchwilydd ar yr astudiaeth o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe - ac sydd â nifer o glefydau awtoimiwn systemig: "Er gwaetha’r honiad ym Mholisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llawn (y tu allan i'r dalgylch) GIG Cymru ei fod yn 'sicrhau tegwch o ran mynediad', mae'n ymddangos ei fod yn rhoi'r rhai hynny sy'n ennill incwm isel ac nad ydynt yn gallu fforddio apwyntiad preifat yn Lloegr dan anfantais.”
Mae profiad Harwood - a adroddir yn Journal of Patient Experience - yn adlewyrchu nifer o ganfyddiadau'r astudiaeth.
Ar ôl dechrau cael symptomau gweledol (gan gynnwys fflachiau golau, ôl-ddelweddau ac eira gweledol) yn 2016, argymhellodd offthalmoleg fod Harwood yn mynd i weld niwro-offthalmolegydd - gwasanaeth nad oedd ar gael yng Nghymru ar y pryd.
Dywedodd Harwood: "Ni chafodd atgyfeiriad llwyddiannus ei wneud gan GIG Cymru i niwro-offthalmoleg yn Lloegr tan 2025, a dim ond pythefnos yn ôl y cefais apwyntiad. Ddeng mlynedd ers i fy symptomau ddechrau, rydw i'n dal i aros i rywun fy ngweld."
Mae symptomau Harwood wedi parhau i ddatblygu yn ystod y degawd o aros, gan gynnwys damwain pan aeth yn anymwybodol ar ôl methu â gweld drws a oedd ar gau.
Dywedodd Harwood: "Fel llawer o'r cleifion rydw i wedi cyfweld â nhw ar gyfer yr astudiaeth hon, rydw i'n llwyr gefnogi egwyddor y GIG, ond rydw i wedi fy siomi nad oedd yno i fy nghefnogi pan oeddwn i wir ei angen."
Ychwanegodd: "Rydw i'n credu bod angen mwy o arbenigwyr, atgyfeiriadau cyflymach, llai o anhrefn a mwy o dosturi ar GIG Cymru.”
Mae'r astudiaeth yn argymell nifer o gamau gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, gan gynnwys:
- Adolygiad llawn o Bolisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llawn (y tu allan i'r dalgylch) GIG Cymru, sy'n cynnwys grwpiau o gleifion, elusennau meddygol a chyrff proffesiynol er mwyn datblygu system fwy effeithiol a theg.
- Archwiliad o ddarpariaeth arbenigol ar draws Cymru.
- Cynllun wedi'i ariannu er mwyn mynd i'r afael â bylchau ym meysydd rhewmatoleg, niwro-offthalmoleg a phrofi diagnostig.
- Sicrhau bod mwy o rewmatolegwyr arbenigol - a mynediad gwell at niwro-offthalmolegwyr - ar gael ar draws byrddau iechyd yng Nghymru.
- Sicrhau bod 'nailfold capillaroscopy' ar gael ledled Cymru.