Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi sicrhau ysgoloriaeth newydd bwysig gwerth mwy na £100,000 i ddatblygu ei astudiaethau.
Mae Ben Williams yn un o bedwar enillydd cyntaf Ysgoloriaeth PhD Syr David Jack a gynhelir gan Gymdeithas Ffarmacolegol Prydain.
Yr ysgoloriaeth yw'r cyntaf o 40 o brosiectau PhD a gefnogir dros y degawd nesaf sydd â’r nod o feithrin y genhedlaeth nesaf o ffarmacolegwyr ac arloeswyr therapiwtig. Mae wedi'i gwneud yn bosibl diolch i rodd hael gan deulu'r diweddar Syr David Jack, y ffarmacolegwr arloesol a ddatblygodd feddyginiaethau asthma a newidiodd fywydau.
Graddiodd Ben, o Lanelli, gyda BSc mewn Bioleg o Abertawe ac ar hyn o bryd mae'n fyfyriwr MSc drwy Ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae'n bwriadu dechrau ei astudiaethau PhD ym mis Hydref, a bydd yr ysgoloriaeth yn talu ffïoedd ei gwrs, costau ymchwil hyd at £10,000 y flwyddyn, lwfans drwy gydol ei astudiaethau PhD a chefnogaeth i fynychu cyfarfodydd gwyddonol – gwerth tua £110,000.
Meddai: “Mae ennill yr ysgoloriaeth hon yn ei blwyddyn sefydlu yn anrhydedd academaidd a phersonol rhyfeddol. Hoffwn ddiolch i'r Gymdeithas am weld rhywbeth ynof fi a rhoi'r cyfle i mi ddatblygu fy hun fel ymchwilydd annibynnol mewn ffarmacoleg a thocsicoleg gyda'r wobr hon.
“Diolch i’m goruchwylwyr, yn y gorffennol, yn y presennol a’r rhai hynny a fydd yn fuan, am y gefnogaeth barhaus a’r cyfoeth o wybodaeth a ddarparwyd, gan fy ngalluogi i fod yma heddiw.”
Cyflwynodd Ben gais am yr ysgoloriaeth gyda chefnogaeth gan ei dîm goruchwylio sef Dr Aidan Seeley, Yr Athro Martin Clift, a Dr Sophie Reed. Bydd ei PhD yn cynnwys ymchwilio i effeithiau cynhwysion fferyllol gweithredol yn yr amgylchedd gan ddefnyddio'r model infertebrat, Lumbriculus variegatus, yn Labordy Ymchwil Integreiddiol i Fwydod Abertawe (SWIRL).
Meddai Dr Seeley, cyfarwyddwr rhaglen graddau Ffarmacoleg Feddygol Abertawe a Phrif Ymchwilydd SWIRL: “Mae hwn yn ganlyniad gwych i Ben, y tîm goruchwylio, SWIRL ac i’r Ysgol Feddygaeth. Mae wir yn dangos safon y myfyrwyr rydyn ni'n eu meithrin yma yn Abertawe.”
Dysgwch fwy am astudio Ffarmacoleg Feddygol yn Abertawe