Menyw ifanc mewn gwisgoedd graddio yn sefyll o flaen coeden Nadolig addurnedig

Byddai hyd yn oed meddwl am gerdded ar draws llwyfan i dderbyn gradd wedi teimlo fel breuddwyd amhosibl i Ayla Jones pan oedd hi yn ei harddegau.

Ond nawr ddegawd yn ddiweddarach, mae hi'n falch o fod â gradd BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) ar ôl goresgyn yr anawsterau a fu’n difetha ei bywyd ond a wnaeth hi'n benderfynol o helpu eraill.

Dechreuodd Ayla gael anawsterau gyda'i hiechyd meddwl pan oedd hi’n 12 oed. Gyda diffyg hyder parhaus, roedd newid yn her iddi a daeth hi'n fwyfwy pryderus ac yn isel ei hysbryd cyn cael ei hepisod seicotig cyntaf pan oedd hi'n 15 oed. 

“Roeddwn i'n cael paranoia a mania - roeddwn i'n sâl iawn a chafodd effaith wael iawn ar fy addysg. Roedd rhaid i fi gael fy addysgu gartref a gadewais i heb unrhyw fath o gymhwyster,” meddai Ayla sy'n 24 oed ac o Sandfields, Port Talbot.

Yn ei harddegau treuliodd hi flynyddoedd yn ceisio dod o hyd i'r math iawn o feddyginiaeth a thriniaeth a fyddai'n ei galluogi i fyw bywyd boddhaus.

“Roeddwn i'n 18 oed a heb ffrindiau na bywyd cymdeithasol. Roeddwn i'n bodoli yn hytrach na byw. Gwnaeth y cyffuriau fy lleferydd yn aneglur ac roeddwn i'n cysgu yn ystod y dydd. Roeddwn i eisiau cymryd rheolaeth ar fy mywyd, roedd yn rhaid i mi dorri'n rhydd o'r gofid.

“Roeddwn i bob amser wedi eisiau bod yn nyrs ac roedd gweld y diffyg gofal iechyd meddwl mewn ysgolion wedi fy ngwneud i’n benderfynol o ddewis y maes hwn.”

Ond er mwyn gwireddu ei breuddwyd, roedd hi'n gwybod y byddai angen iddi fynd i'r coleg ac ennill cymwysterau mynediad hanfodol.

“Roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i weithredu ar fy mhen fy hun, roeddwn i'n 19 oed a doeddwn i byth wedi dal bws ar fy mhen fy hun.”

Gyda help a chymorth ei darlithwyr yng Ngholeg Afan a chariad a chymorth ei theulu, magodd Ayla yr hyder a'r wybodaeth roedd eu hangen arni i fwrw ymlaen â'i huchelgeisiau hi.  

Trobwynt mawr oedd cwrdd â'r ymgyrchydd iechyd meddwl Jonny Benjamin, sylfaenydd yr elusen Beyond, mewn cynhadledd.  Ar ôl rhannu ei phrofiadau ag ef, gwnaeth e wahodd Ayla i fod yn rhan o fwrdd ieuenctid sy’n helpu i gynghori ar ymgyrchoedd a pholisïau'r dyfodol a hefyd i gyfrannu at The Book of Hope:  101 Voices on Overcoming Adversity. O ganlyniad, cafodd Ayla gyfle i rannu ei stori ochr yn ochr ag enwogion fel Joe Wicks, y Fonesig Kelly Holmes a Zoe Sugg.

“Rhoddodd hyn hwb mawr i'm hyder ac arweiniodd at gyflwyno fy nghais i Abertawe i astudio nyrsio. Pan wnes i gofrestru, esboniais i fy nghyflwr i'r gwasanaeth lles a wnaeth fy rhoi i mewn cysylltiad â'r mentor iechyd meddwl arbenigol Pamela Johnson sydd wedi bod yn wych.

“Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn i gyd hebddi hi, fyddwn i byth wedi gallu ymdopi. Rydw i mor ddiolchgar.”

Dywedodd Pamela: “Mae Ayla wedi gweithio mor galed drwy gydol ei chwrs i reoli ei hiechyd meddwl wrth weithio'n gyson  hyd eithaf ei gallu ym mhob agwedd ar y cwrs. 

“Mae hi wedi goresgyn sawl her ac wedi cael adborth ardderchog gan ddarparwyr lleoliadau gwaith a chleifion. Mae hi wedi goresgyn ei gofidion a'i phryderon ac wedi ymgymryd â'i hastudiaethau gydag ymroddiad ac ymrwymiad.”

Ar ôl cwblhau lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau, mae Ayla bellach wedi cymhwyso ac mae hi'n gwybod yn bendant beth yr hoffai hi ei wneud.

Dywedodd: “Rwy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth a gwneud newidiadau mewn ysgolion i helpu plant a phobl ifanc sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl mewn modd cefnogol a chynhwysol, a hyn i gyd wrth rannu'r gobaith y gallwn ni gyflawni ein breuddwydion o hyd.”

Dywed fod ei hanes ei hun wedi bod yn allweddol wrth lunio pwy yw hi heddiw - ac wrth wneud hi'n benderfynol o weithio ym maes iechyd meddwl.

Ychwanegodd: “Rwy'n gwybod sut brofiad yw bod yn sâl iawn ac rwy'n gallu rhoi fy hun yn esgidiau rhywun sy'n mynd drwy'r un peth.”

Dysgwch fwy am astudio nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori