Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i agor siop dim gwastraff

Prifysgol Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i agor siop dim gwastraff.

Caiff Root Zero, ar gampws Parc Singleton, ei chynnal gan Undeb y Myfyrwyr ac mae'n cynnig profiad siopa unigryw a chynaliadwy i fyfyrwyr a staff.

Mae'r siop yn defnyddio'r cysyniad dewch â'ch cynhwysydd eich hun, sy'n helpu i leihau pecynnu a gwastraff bwyd ac mae'n cynnwys dewis o gynnyrch ffordd o fyw eco a chynaliadwy megis bwydydd cyflawn, pylsiau, pasta, siocled, coffi, ffrwythau, glanedyddion a hylif golchi dwylo.

Codwyd £985 gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe drwy lwyfan ariannu torfol Wave y Brifysgol i helpu tuag at gost y siop, a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan y cyhoedd a thimau Cynaliadwyedd a Menter y Brifysgol.

Ers agor, mae'r siop hefyd wedi bod yn helpu myfyrwyr sy'n entrepreneuriaid gan roi lle iddynt hyrwyddo eu busnesau a gwerthu eu cynnyrch.

Roedd Luke Green, myfyriwr yn ail flwyddyn yr Ysgol Reolaeth yn un o'r cyntaf i elwa, gyda Root Zero yn cyflenwi ‘GoGo Coffee’ a sefydlwyd ganddo yn gynharach eleni.

"Fel cwmni newydd a myfyriwr, roedd cael y cyfle i werthu fy nghynnyrch o leoliad parhaol mor ddefnyddiol a bydd yn cael ei werthfawrogi gan cynifer o fyfyrwyr eraill," meddai.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cyflogi myfyrwyr yn unig i weithio yn y siop ac mae'n cyflogi dros 260 o bobl y flwyddyn ar draws yr holl leoliadau a mannau siopa ar y campws fel y gall myfyrwyr ennill arian yn hyblyg i fynd law yn llaw â'u hastudiaethau.

Meddai Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Grace Hannaford:

"Gyda'r angen cynyddol i gymryd camau cadarnhaol i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, roeddem yn teimlo y byddai siop dim gwastraff yn helpu pobl i wneud y newidiadau hyn yn eu bywydau, ond hefyd yn creu ymwybyddiaeth o ran faint o blastig untro rydym yn dibynnu arno.

"Gobeithio y bydd Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr yn gallu dechrau taith pawb i leihau eu hôl troed carbon a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Rhannu'r stori