Ar frig y don ers 1920

Wave yw llwyfan ariannu torfol arbennig Prifysgol Abertawe. Mae’n galluogi myfyrwyr presennol a staff ac aelodau o’r Brifysgol i godi arian ar sail eu dychymyg, datblygu eu diddordebau a bwrw ymlaen â phrosiectau a syniadau creadigol ac arloesol. Bydd y prosiectau a’r syniadau hyn yn cael effaith ar draws y sefydliad ac yn y gymuned ehangach.

GWNEWCH ARGRAFF

Mae Wave yn rhoi rheolaeth i chi wneud gwahaniaeth i'r hyn sy'n bwysig i chi.

  • Os ydych am ddechrau neu dyfu eich busnes.
  • Efallai bod angen cyfarpar newydd ar eich tîm neu gymdeithas.
  • Rydych am gynnal digwyddiad.
  • Neu rydych yn angerddol am faterion y byd neu rydych wedi penderfynu gwirfoddoli dramor ac mae angen help arnoch i dalu am y costau teithio. 

Mae bron unrhyw beth yn addas ar gyfer WAVE, felly dechreuwch arni heddi. Ewch i Wave neu gysylltu â thîm Wave os hoffech ragor o wybodaeth.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi ein prosiectau hyd yn hyn, gyda 820 o roddwyr gan godi dros £36,300 gyda'n gilydd drwy WAVE ar gyfer prosiectau a mentrau myfyrwyr a staff. Edrychwch ar rai o'r prosiectau a gwblhawyd yn flaenorol isod.

Rygbi’r Gynghrair Prifysgol Abertawe Codi Arian i'r Clwb

swansea university rugby league team

"Rydym i gyd yn hynod falch ein bod wedi codi'r arian hwn, nid oes geiriau i fynegi’r sefyllfa! Mae sefyllfa ariannol ein clwb wedi gwella cymaint yn ystod y 12 mis diwethaf ac rydym yn hynod ddiolchgar". - Tom Seldon (capten y clwb).
Gyda phartneriaid citiau newydd, ynghyd â chyfarpar a chwaraewyr newydd, mae tîm y Titans wedi ehangu ei hunaniaeth a bydd y tîm am gynnal ei safle ar frig tabl y gynghrair am lawer o flynyddoedd i ddod.

Easily Eco

easily eco products and logo

"Rydym hefyd yn ddiolchgar am yr holl roddion y gwnaethom eu derbyn; cododd ein prosiect cyllido torfol llwyddiannus £355, sy'n fwy nag y gallen ni fod wedi dychmygu! Ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb y gefnogaeth a’r cymorth cyson rydym yn eu derbyn gan bawb! Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i barhau i ehangu a phrynu cynnyrch newydd, gan gynnig dewis ehangach ac amrywiol o gynnyrch heb blastig i ddiwallu anghenion pawb" – Rhiannon Barriball (Cyd-sefydlydd)

Root Zero - Siop dim gwastraff

swansea university zero waste store

Datblygodd Root Zero oherwydd angen cynyddol i unigolion leihau eu hôl troed carbon, yn enwedig yng nghyd-destun plastig untro. Gan ein bod yn darparu grawn, byrbrydau, perlysiau a sbeisys, glanedyddion, cynnyrch hylendid a nwyddau tŷ amrywiol, gall cwsmeriaid ddod â'u cynwysyddion eu hunain a'u llenwi yn y siop.

"Oherwydd yr arian a godwyd, roeddem yn gallu talu am ein wal cyflenwi bwyd sydd eisoes wedi bod yn hynod boblogaidd." - Martin Caldwell (Undeb myfyrwyr)

 

 

Tim Davies - Gwobr Gudd

tim davies, athro yn abertawe

Yn dilyn gyrfa 40 mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe, bydd y darlithydd peirianneg uchel ei barch, Dr Timothy Davies, yn ymddeol yn fuan. Fodd bynnag, nid dyma'r diwedd i Tim oherwydd bydd y darlithydd hwn sy'n ffefryn i lawer o bobl yn gadael swm syfrdanol o £3,622 ar ei ôl. Casglwyd yr arian hwn gan dros 60 o roddwyr er cof am ei amser yn Abertawe. Dyfernir gwobr Timothy Davies i fyfyrwyr am flynyddoedd i ddod ar gyfer y prosiect grŵp ail flwyddyn gorau i adeiladau robotiaid ymreolaethol ar gyfer cystadleuaeth breswyl flynyddol Micromouse, a grëwyd gan Tim.

"Byddai creu gwobr i fyfyrwyr elwa arni ar ôl iddo ymddeol yn rhoi mwy o fwynhad iddo nag y gallai unrhyw anrheg ymddeol y gallen ni ei rhoi iddo". – Sue (Partner)

 

Hanner Marathon Tîm Abertawe

swansea staff run the swansea half marathon

Ar 23 Mehefin, cymerodd 5 aelod o staff Prifysgol Abertawe ran yn Hanner Marathon Abertawe, gan godi £716 gyda'i gilydd ar gyfer prosiectau yn y Brifysgol a arweinir gan fyfyrwyr.

"Mae wedi bod yn fendigedig derbyn cymaint o gefnogaeth angenrheidiol a hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau at lwyddiant y prosiectau hyn. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf pan allwn helpu'n cyfranogwyr i dyfu, ynghyd â'r cronfeydd a godwyd yn Hanner Marathon Abertawe 2020." - Ben Thomas

Ceisiadau GAIN

Gain app student startup logo and products

Yw adfywio'r Stryd Fawr a busnesau lleol. Drwy ddosbarthu disgowntiau arbennig, mae Gain yn rhoi arian i elusen ranbarthol bob tro y caiff un o'u cynigion eu prynu, gan helpu'r sawl sy'n llai ffodus na ni'n hunain.

"Gyda'r lansiad yn prysur agosáu, daeth yr amser mewn da bryd. Er ein bod yn parhau i gofrestru lleoliadau yn Abertawe, gallwn barhau i arbed arian i bobl, cefnogi busnesau annibynnol, ynghyd â'r sawl sy'n llai ffodus yn ein cymuned." - Tom Robertson (Sefydlydd)