Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Max Porter

Bydd Max Porter - enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2016 am ei nofel gyntaf o fri ryngwladol, Grief is the Thing with Feathers - yn ymuno â Dr Francesca Rhydderch ym Mhrifysgol Abertawe i drafod a darllen o'i ail nofel - y mae disgwyl mawr amdano'n fyd-eang ac sydd wedi cyrraedd rhestr hir gwobr Booker - Lanny.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, ar ddydd Mercher 9 Hydref am 7:30pm, a bydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb a sesiwn llofnodi llyfrau.

Enillodd nofel Max Porter, Grief Is the Thing with Feathers, Wobr Ryngwladol Dylan Thomas; Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn Sunday Times/Peters, Fraser + Dunlop; gwobr Europese Literatuurprijs; a Gwobr Darllenwyr BAMB (Books Are My Bag). Cyrhaeddodd hefyd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian a Gwobr Goldsmiths.

Mae ei nofel ddiweddaraf, Lanny, wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Booker 2019. Wedi'i disgrifio'n ddiddorol fel croes rhwng Under Milk Wood a Broadchurch, mae Lanny yn stori am blentyn, teulu, pentref a chymuned, a'r hanesion a rennir drwy'r cenedlaethau. Gan ein hatgoffa o'r Llais Cyntaf hollweledol ym mhentref ffuglennol Llareggub Dylan Thomas, mae'r darllenydd yn dysgu safbwynt unigryw Dead Papa Toothwort, ysbryd hynafol a all newid ffurf sy'n gweld ac yn bwydo ar fywyd y pentref.

Mae Lanny wedi derbyn canmoliaeth helaeth, ac meddai'r awdur o fri, Maggie O’Farrell: "Mae'n anodd mynegi cymaint y mwynheais Lanny. Ni welir llyfrau cystal â hwn yn aml iawn. Mae'n nofel unigryw, yn fywiogol, yn anesmwythol ac yn llon ei darllen. Bydd yn mynd i mewn i'ch brest ac yn dal gafael yn eich calon. Mae'n nofel i'w gwthio i ddwylo pawb rydych chi'n eu hadnabod a dweud, 'darllena hon'."

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a siop lyfrau Cover to Cover.

Pris y tocynnau ar gyfer y digwyddiad yw £8, a £5 i fyfyrwyr.
Gallwch ffonio Swyddfa Docynnau Taliesin ar 01792 602060.

Prynwch docynnau o swyddfa docynnau’r Taliesin

 

Rhannu'r stori