Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Delwedd haniaethol o gloriannau yn erbyn cefndir o rhifau glas

Mae Prifysgol Abertawe a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £5.6 miliwn ym meysydd TechGyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder, ynghyd ag atal gwrthderfysgaeth a defnydd troseddwyr o’r rhyngrwyd.

Heddiw (30 Hydref 2019) mae Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £5.6 miliwn ym meysydd TechGyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder, ynghyd ag atal gwrthderfysgaeth a defnydd troseddwyr o’r rhyngrwyd.

Gyda chefnogaeth gwerth £4 miliwn o gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, bydd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yn gyfleuster ymchwil ac arloesi unigryw yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol.

Bydd y prosiect yn cyflwyno amrywiaeth o gyfleusterau sy'n arwain y sector, gan gynnwys:

  • Ystafell ymchwil i seiberfygythiadau, gyda labordai a chyfleusterau ymchwil data sy'n cefnogi partneriaethau cydweithio â phartneriaid megis yr asiantaethau diogelwch, cwmnïau gorfodi'r gyfraith a thechnoleg.
  • Labordy "Deallusrwydd Artiffisial Cyfreithiol" lle gall ymchwilwyr y Gyfraith a Chyfrifiadureg ddatblygu, profi a chymhwyso dulliau newydd mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, dylunio cyfreithiol a phrosesu iaith naturiol, er mwyn gwella effeithiolrwydd cyflwyno gwasanaethau cyfreithiol.
  • Drwy Ganolfan Arloesi Cyfreithiol, gall cwmnïau cyfreithiol a thechnegol weithio gydag ymchwilwyr a chyda thîm datblygu meddalwedd, er mwyn datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol.
  • Clinig y Gyfraith lle gellir cynnal profion peilot wrth arloesi a chydweithio ym maes TechGyfreithiol, gan arwain at gyflwyno rhaglenni a phlatfformau sy'n cefnogi mynediad at gyfiawnder.

Mae'r arian hefyd yn cefnogi penodi ymchwilwyr newydd i weithio gyda chwmnïau cyfreithiol, cwmnïau technoleg a sefydliadau diogelwch gyda'r nod o:

  • Fwyafu cyfleoedd ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sector TechGyfreithiol sy'n dod i'r amlwg.
  • Cyflwyno cynhyrchion digidol a gwasanaethau sy'n helpu cymunedau i gael gafael ar arweiniad a gwybodaeth gyfreithiol.
  • Datblygu pecynnau cymorth a fframweithiau i liniaru’r risg o droseddwyr a therfysgwyr yn camddefnyddio platfformau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar waith y Ganolfan Ymchwil ar Seiberderfysgaeth (CyTREC), y mae ganddi enw da rhyngwladol am ei hymchwil gymhwysol ar seiberderfysgaeth a defnydd y rhyngrwyd gan derfysgwyr, a'r Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith (CIEL), sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd sy'n deillio o effeithiau technoleg ar gyflwyno gwasanaethau cyfreithiol.

Meddai Dr Chris Marshall, Cyfarwyddwr yr Economi Wybodaeth yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton: "Un o nodau craidd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yw helpu cwmnïau cyfreithiol i arloesi rhwng y gyfraith a thechnoleg, boed drwy ddefnydd gwell o ddata, gwella dyluniad prosesau cyfreithiol neu gymhwyso dysgu peirianyddol i faterion cyfreithiol.

"Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gyda chwmnïau gorfodi'r gyfraith, asiantaethau diogelwch a chwmnïau technoleg i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae terfysgwyr a throseddwyr yn ymelwa ar blatfformau digidol a thechnoleg sy'n dod i'r amlwg, ac i ddatblygu offer a systemau diogelu y gellir eu hintegreiddio mewn dylunio technolegol."

Meddai'r Athro Elwen Evans CF, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton: "Mae hyn yn newyddion gwych i Ysgol y Gyfraith ac i Gymru. Mae'n ardystiad sylweddol o'n huchelgais i ddatblygu arloesedd yn y gwasanaethau cyfreithiol a bydd yn ein galluogi i drawsnewid graddfa ac effeithiau ein gwaith. Rydym yn falch iawn o sicrhau'r buddsoddiad hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop."

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles: “Roedd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder, a gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf, yn nodi cyfleoedd i gryfhau’r sector cyfreithiol yng Nghymru. Mae gallu dod o hyd i’r gyfraith a’i deall yn rhesymol hawdd wrth galon cenedl a lywodraethir gan reolaeth y gyfraith.

“Y Labordy Arloesedd hwn yw’r union beth sydd ei angen arnon ni ar hyn o bryd. Mae’n darparu’r cyfleusterau ar gyfer darganfod y potensial sydd gan dechnolegau sy’n dechrau cael eu cyflwyno, er enghraifft technegau darllen gan beiriannau a deallusrwydd artiffisial, i’w gynnig. Mae hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, cyrff proffesiynol a’r byd academaidd yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu a hyrwyddo gallu technolegol y sector cyfreithiol.

“Rwyf wrth fy modd bod Cymru yn arwain y ffordd gyda’r ymchwil arloesol hwn. Mae cronfeydd yr UE yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi, cynyddu cynhyrchiant, a datblygu cyfleoedd cyflogaeth a busnes. Edrychaf ymlaen at weld pa mor bell y gall technoleg y gyfraith fynd i helpu i hyrwyddo mynediad at gyfiawnder i ddinasyddion Cymru.”

Rhannu'r stori