ILS1

Dr Zhidao Xia

Darlithydd mewn Meddygaeth Aildyfu, Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606829

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
014
Llawr Gwaelod
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Zhidao (Dao) Xia yn Uwch-ddarlithydd Meddygaeth Aildyfu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.  

Mae diddordebau ymchwil Dao yn canolbwyntio ar aildyfu meinweoedd ysgerbydol, yn bennaf esgyrn a chartilag, gan ddefnyddio bioddeunyddiau, bôn-gelloedd a chyflwyno ffactor twf/cyffuriau a reolir.  

Mae'n arbenigo mewn datblygu deunyddiau bioddiraddiadwy ac astudio mecanwaith bioddiraddio a'r cysylltiad rhwng bioddeunyddiau a'r feinwe letyol.  

Mae ei ddiddordebau'n ymestyn i astudio adweithiau niweidiol meinweoedd a chymhlethdodau clinigol mewnblaniadau meddygol a datblygiad bioddeunyddiau biogydnaws gwell.  

Mae Dao hefyd yn gweithio ar ymchwil drosi. Mae e'n cydweithredu'n agos â diwydiannau i fasnacheiddio patent ar gyfer impyn asgwrn bioddiraddiadwy newydd wedi'i argraffu'n 3-D.  

Meysydd Arbenigedd

  • Meddygaeth aildyfu
  • Bioddeunyddiau
  • Technoleg cronfeydd celloedd a bôn-gelloedd
  • Biogynhyrchu/argraffu 3D
  • Biogydnawsedd/imiwnedd cynhenid
  • Arloesi ac ymgysylltu