Institute of Life Science 1 internal Atrium view up
Thinzar Min

Dr Thinzar Min

Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Diabetes ac Endocrinoleg, Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 9701

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Thinzar Min yn Uwch Ddarlithydd Clinigol a Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Fewnol Gyffredinol, Diabetes ac Endocrinoleg yn Ysbyty Singleton ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Graddiodd o Yangon, Myanmar yn 2005. Cwblhaodd y rhaglen hyfforddi arbenigol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Gyffredinol yn Neoniaeth Cymru yn 2018. Enillodd MSc (Diabetes) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 2014. Rhwng 2014 a 2017, cwblhaodd brosiect MD yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar ganlyniadau metabolaidd tymor hir llawdriniaeth fariatrig mewn pobl â diabetes a phobl y mae eu proses o reoleiddio glwcos wedi’i amharu. Mae’n weithgar yn y maes addysgu, ac yn goruchwylio meddygon iau wrth iddynt hyfforddi a chwblhau gwaith ymchwil. Mae ei rolau eraill yn y Bwrdd Iechyd yn cynnwys Arweinydd Archwilio Ysbyty Singleton ac Arweinydd adolygiad Morbidrwydd a Marwolaethau ar gyfer Ysbyty Singleton.   

Meysydd Arbenigedd

  • Diabetes
  • Gordewdra
  • Endocrinoleg
  • Treialon Clinigol
  • Meddygaeth glinigol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgodd Dr Min y Modiwl Ymarfer Diabetes a chyfrannodd at y cwrs MSc mewn Diabetes, y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion a’r rhaglen Cydymaith Meddygol.

Cychwynnodd ei rôl yn Arweinydd Mintai Arbenigol (Meddygaeth) ar gyfer y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion ym mis Medi 2020.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau