Dr Rhodri Owen

Dr Rhodri Owen

Darlithydd mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol, Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
017
Llawr Gwaelod
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Rhodri yn gemegydd bio-ddadansoddol ac yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Biofeddygol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu offeryniaeth a dulliau newydd ar gyfer cromatograffaeth a sbectrometreg màs, a chymhwyso dadansoddi data i setiau data sbectrometreg màs mawr.

Cyn hynny, bu’n gweithio yng Nghyfleuster Sbectrometreg Màs Cenedlaethol yr EPSRC, lle bu’n cynnal ymchwil gan ddefnyddio nifer o offerynnau gan ddarparu gwasanaethau dadansoddol i grwpiau ymchwil ledled y DU.

Mae Rhodri yn ymddiriedolwr Cymdeithas Sbectrometreg Màs Prydain ac yn aelod o'i Phwyllgor Gwaith.

Derbyniodd ei PhD o Brifysgol Abertawe gyda thesis ar ddatblygu ffynhonnell ïoneiddiad plasma heliwm. Mae ganddo hefyd BSc mewn Gwyddor Cemegol, Dadansoddol a Fforensig o Brifysgol Cymru Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Cemeg Ddadansoddol
  • Cromatograffaeth
  • Sbectrometreg Màs