Golwg o Gampws Singleton a’r bae gyferbyn o’r awyr
Llun proffil o Rhiannon Pugsley

Mrs Rhiannon Pugsley

Uwch-ddarlithydd Pwnc (Cymraeg) ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon, Education and Childhood Studies

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
022
Llawr Gwaelod
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Uwch-ddarlithydd ym maes Addysg Gychwynnol i Athrawon yw Rhiannon Pugsley, a’i harbenigedd yw addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd. Y mae ganddi 16 mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgolion uwchradd a phob oed cyfrwng Cymraeg a chyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yr oedd yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes, arbenigodd Rhiannon yn addysgu’r Gymraeg yn ogystal â’r maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac fe fu’n Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol am chwe blynedd ac yn aelod o Banel Cynhwysiant Castell-nedd Port Talbot. Mae ei gyrfa hefyd wedi cynnwys cyfnodau fel Pennaeth Blwyddyn, Athro Dynodedig Diogelu Plant ac fel cymedrolwr allanol i Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC). Y mae Rhiannon yn aseswr trefniadau mynediad cymwysedig ac yn aelod o Communicate-ed. 

Meysydd Arbenigedd

  • Addysgu Cymraeg mewn ysgolion uwchradd
  • Trawsieithu a chaffael dwyieithrwydd
  • Addysg Gychwynnol i Athrawon
  • Addysgu a Dysgu (Addysgeg)
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Cod-groesi a thrawsieithu
  • Dwyieithrwydd a chaffael ail iaith
  • Diwallu anghenion dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Trefniadau mynediad ac addasiadau rhesymol
  • Cod ADY Cymru
  • Ymddygiad ar gyfer dysgu a rheolaeth ddosbarth
  • Asesu ar gyfer dysgu
Ymchwil